Four Christmases - 2008 Da, drwg ynteu hyll?
Y Sêr
Vince Vaughn, Reese Witherspoon, Robert Duvall, Jon Favreau, Mary Steenburgen, Sissy Spacek a John Voight
Cyfarwyddo
Seth Gordon
Sgwennu
Matt Allen a Caleb Wilson
Hyd 88 munud
Adolygiad Lowri Haf Cooke
Mae modd rhannu ffilmiau Nadolig cyfoes i dri brif ddosbarth; y da, y drwg a'r hyll.
Am resymau hollol amrywiol, gellid gosod Bad Santa, Scrooged, Home Alone, Elf a Die Hard i'r dosbarth cynta.
Ac os oes rhaid bod yn llym rhaid ystyried The Family Stone a National Lampoon's Christmas Vacation yn eilradd.
Wedyn, does dim dewis ond gosod yr erchyllbethau Christmas With the Kranks, The Santa Clause a Surviving Christmas yn y trydydd ddosbarth.
Lle, felly mae'r ymdrech ddiweddara, Four Christmases, yn perthyn?
Wel, os oes rhaid ei hystyried yn ffilm Nadoligaidd - ac mae'r teitl yn mynnu hynny - gallwn ei dyfarnu'n ffilm 'wael' rhywle rhwng y drwg a'r hyll!
I fod yn deg, fodd bynnag, dyw'r Nadolig yn cael prin ddim sylw ac yn hynny o beth, mae hi'n haeddu ailedrychiad, ac ail ddyfarniad.
Cwbl wahanol
Yn un peth, mae Four Christmases yn cychwyn mewn ffordd gwbl wahanol i'r lleill. Chaiff y Nadolig mo'i grybwyll am o leiaf ddeng munud - ac mae hynny i'w ganmol. Wyth allan o ddeg am wreiddioldeb, felly.
Mae'r ffilm yn dechrau gyda golygfa hudolus o San Francisco liw nos (oce, i gyfeiliant cân Nadoligaidd, ond gan nad yw hi'n un gor-gyfarwydd, caiff faddeuant), cyn glanio mewn bar coctêl ffasiynol, lle gwelwn ddyn ifanc yn ceisio'i orau i greu argraff ar fersiwn Califfornia o Carrie Bradshaw.
Yn anffodus, nid Mr Big mo hwn ac o fewn dim mae hi'n rhoi taw ar eiriau gweniaethus y geek gwledig ac yn taflu dŵr oer dros ei ymdrechion i'w denu.
Ond cyn iddi gael cyfle i'w ddiystyrru'n llwyr, mae'r anffodusyn annwyl yn tynnu'i sbectolau ac yn troi'n Adonis o'i blaen, a'i harwain i'r tÅ· bach agosaf i gael dangos iddi be di be.
Wrth iddynt adael y bar, darganfyddwn mai dyma ymdrech ddiweddara'r cwpwl cariadus Brad a Kate i ychwanegu bach o sbeis i'w perthynas a down i ddeall eu bod nhw'n hapus â'i gilydd am reswm pendol.
Osgoi'r teulu Maen nhw'n gwneud cyn lleid â phosib â'u teuluoedd, a dydyn nhw ddim yn or-awyddus i gychwyn eu teulu eu hunain ychwaith, gan resymu nad oes modd sillafu "families" heb gynnwys yr elfen "lies"!
Mae'r rhieni'r ddau wedi ysgaru a Brad a Kate yn berfaith hapus treulio'u Nadolig diweddaraf filoedd o filltiroedd i ffwrdd o gymhlethdod eu teuluoedd estynedig, a hynny ar ynys Fiji.
Yn anffodus, daw niwl San Francisco yn gwmwl du dros eu cynlluniau a'u gadael ag ond un dewis; ymweliad uffernol â'r pedwar teulu cyn dal yr awyren nesaf i baradwys.
Mae hyn yn arwain at gyfres o olygfeydd "digri" ond "dadlennol" (mewn egwyddor) yng nghwmni cymeriadau kerr-azy a chartwnaidd.
Elfen swreal Serch dechreuad sinigaidd ond addawol, gan gynnwys elfen swreal iawn i bob un teulu (mae brodyr Brad, y cyfreithiwr cyfrifol, yn Ultimate Cage Fighters o fri, a'i fam mewn cariad â'i ffrind gorau ef, tra bo mam Kate, y control-queen, yn "Cougar" arall, ac wrth ei bodd yng nghwmni Brad).
O fewn hanner awr, ceir yr arwyddion cyntaf o schmalz Hollywoodaidd, wrth i'r ddau gariad ddod i ddeall nad ydynt yn adnabod ei gilydd gystal ag oedden nhw'n meddwl.
Ydy hi'n bryd iddynt ailystyried eu perthynas? Ydyn nhw wir yn dymuno parhau i fyw eu bywydau hunanol-arwynebol, di-epil ond dedwydd, gyda'i gilydd?
Neu a ydy hi'n bryd rhoi'r sac i'r sell-outs o sgwennwyr sgript?
Yn sicr, byddai'n werth anghofio eu bonws Nadolig eleni.
Os oedd Matt Allen a Caleb Wilson mor benderfynol o gyflwyno stori Nadolig sinigaidd o gyfoes, byddai'n dda o beth petaent wedi cadw at hynny tan y diwedd.
Does na ddim byd yn bod ar ychydig bach o sentimentalrwydd - mae absenoldeb hynny bron a bod yn anghyfreithlon mewn ffilm Nadolig- ond mae modd ei gyflwyno mewn ffordd llawer cynilach nag a welir yma.
Dewis actorion Ac o ddewis rhai o actorion mwyaf carismataidd yr ugeinfed ganrif i rannau eilradd, da chi, rhowch rywbeth gwell i Robert Duvall, Jon Voight a Sissy Spaceck ei wneud na bwydo llinellau gwan i'r "sêr" di-ddim, Vince Vaughn a Reese Withersoon.
Ffilm Nadolig i'r Genhedlaeth Ecs? Bah Hymbyg.
|
|