The Kingdom (2007) Tyndra yn Saudi
Y Sêr
Jamie Foxx, Chris Cooper, Jennifer Garner, Jason Bateman, Jeremy Piven.
Cyfarwyddo
Peter Berg
Sgrifennu
Matthew Michael Carnahan
Hyd
109 munud
Adolygiad gan Shaun Ablett
Daw llawer o ffilmiau o'r America yn llawn negeseuon gwleidyddol - Fahrenheit 11 er enghraifft.
Ond nid oes llawer o ffilmiau sy'n llwyddo i fod yn ddiddorol hefyd wrth bwysleisio negeseuon pwysig ond y mae ffilm newydd Peter Berg yn llwyddo i wneud y ddau beth hyn wrth fynd i'r afael â'r berthynas gymhleth iawn rhwng gwledydd y Gorllewin a Saudi Arabia.
Mae'n agor gyda hanes y wlad gyfoethog hon, diolch i'w holew. a sut y bu i bymtheg o derfysgwyr ddinistrio'r adeiladau yn Efrog Newydd ym Medi 2001.
Mae'r ffilm yn sôn am gant o weithwyr gorllewinol cwmni olew yn Saudi Arabia yn cael eu lladd gan derfysgwyr gyda'r FBI yn America yn mynd i Saudi i ymchwilio.
Chwaraeir rhan Ronald Fleury, arweinydd y tîm, gan Jamie Foxx, actor o fri sydd wedi ennill sawl gwobr gan gynnwys Academy Award am ei ran yn Ray.
Cymerir rhan hefyd gan Jennifer Garner sydd wedi ymddangos mewn sawl ffilm gan gynnwys Daredevil gyda Ben Affleck ac Elektra.
Mae peth o dyndra'r ffilm yn codi o'r ffaith fod awdurdodau Saudi Arabia yn anhapus o gael yr Americanwyr yn eu gwlad gyda sawl digwyddiad lletchwith rhwng Fleury a'r plismon o Saudi, Al Ghazi.
Cawn weld pa mor wahanol yw'r cymeriadau hyn a hwythau'n dilyn crefydd a chyfraith hollol wahanol.
Mae Jamie Foxx yn chwarae rhan arbennig, gan fod ei gymeriad ef yn gallu uniaethu â'r bobl leol a'r sefyllfa yn Saudi Arabia, er taw casáu'r wlad, mae America fod i wneud.
Yn sicr, mae i'r ffilm sawl neges wleidyddol yn bennaf, sut mae cymaint o bobl ddiniwed y ddwy wlad yn cael eu lladd yn y rhyfel hir yma.
Ac er bod y stori yn y ffilm wedi dod i ben, nid felly y rhyfel go iawn.
Mae hon yn ffilm sy'n berffaith ar gyfer unrhyw un sy'n hoffi golygfeydd o gyffro a saethu ond y mae hefyd yn ffilm am gariad a hunan aberth rhai wrth achub bywydau eraill.
Cyhoeddir yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
|
|