'Mr Woodcock' (2007) Cariad mam
Y Sêr:
Billy Bob Thornton, Sean William Scott, Susan Sarandon, Amy Poehler, Melissa Sagemiller
Cyfarwyddo:
Craig Gillespie
Sgrifennu:
Michael Carnes, Josh Gilbert
Hyd:
87 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Bu bywyd yn galed i John Farley (Sean Williams Scott wrth iddo dyfu lan gan ei fod yn eithaf tew ac yn cael ei ddysgu gan athro chwaraeon creulon, hyderus a hunanol iawn o'r enw Mr Woodcock (Billy Bob Thornton).
Mr Woodcock yw un o'r athrawon hynny y mae pob plentyn yn cael hunllefau amdano a bu'n greulon iawn â John wrth geisio'i gymell i wneud mwy a mwy â chwaraeon.
Yn y presennol, mae John yn awdur llwyddiannus sy'n cynorthwyo pobl i ennill hyder a ffydd ynddynt eu hunain.
Pan ddychwel adref i weld ei fam (Susan Sarandon) mae'n cael sioc ofnadwy o ganfod bod Mr Woodcock a hithau yn mynd i briodi ac o'r pwynt hwn ymlaen mae'r ffilm yn troi'n un arbennig iawn wrth i'r ddau gymeriad hollol wahanol gystadlu yn erbyn ei gilydd ac wrth i John ymdrechu i ddangos i'w fam sut un yw Mr Woodcock mewn gwirionedd.
Hoffais y ffilm hon mas draw gyda'r adegau dwl sydd ynddi yn destun hiwmor bythgofiadwy.
Yr olygfa orau yw'r un pan fo John yn ymdrechu i fod yn gyflymach na Mr Woodcock ar y treadmill yn y gampfa ond yn cwympo a bwrw'i ben yn erbyn y wal.
Golygfa ddoniol arall yw John a'i ffrind yn cwato dan y gwely pan fo'i fam a Mr Woodcock yn caru - y peth gwaethaf allai ddigwydd i unrhyw fachgen!
Er bod Sean William Scott yn dda iawn fel y prif gymeriad Billy Bob Thornton sy'n rhoi'r perfformiad mwyaf yn sicr gan ein hatgoffa o ffilm arall debyg iawn i hon a wnaed ganddo, School for Scoundrels.
Ta beth, mae'r ffilm ddiweddaraf hon yn berffaith ar gyfer pob oedran - yn enwedig os ydych yn hoffi'r ffilmiau American Pie.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|