Alfie Newid er gwaeth
Y sêr Jude Law, Sienna Miller, Omar Epps, Marisa Tomei, Susan Sarandon
Cyfarwyddo Charles Shyer
Sgrifennu Elaine Pope, Charles Shyer
Hyd 105 munud
Sut ffilm Diweddariad o ffilm 1966 ddadleuol Michael Caine wedi ei lleoli'n awr ym Manhattan yn hytrach na Phrydain gyda Jude Law, hynod o debyg i'r Caine ifanc, yn chwarae rhan Alfie.
Y stori Gyrrwr limo ym Manhattan ydi Alfie ond yn treulio'r rhan fwyaf o'i amser yn hela a gwelya merched. Fodd bynnag, wyneba argyfwng pan yw'n methu â chyflawni ei orchestion rhywiol.
Y canlyniad Mae'r canlyniad yn brawf y dylid gadael llonydd i glasuron ffilm. Y gwir amdani yw, os yw rhywbeth wedi ei wneud yn iawn y tro cyntaf nad oes diben ei ail wneud fel y profwyd yn eitha diweddar gydag ail bobiadau o Psycho, y Texas Chain Saw Massacre yr Italian Job, Get Carter ac eraill.
Dim ond ffilmiau sâl sydd angen eu hailwneud - er mwyn eu gwella.
Mae'r hen adnod mor wir: Os nad ydi rhywbeth wedi torri - peidiwch a thrio'i drwsio.
Tra'r oedd yr Alfie gwreiddiol yn feiddgar, yn bryfoclyd, yn sinigaidd, yn berthnasol ac yn gwylltio aac yn goglais gyda'r un cyffyrddiad dydi'r Alfie newydd ddim.
Y darnau gorau Pan fo Susan Sarandon ar y sgrîn.
Perfformiadau Y peth gorau y gellir ei ddweud am Law yw ei fod yn ein hatgoffa o Caine yn y brif ran - ond peryg mai camgymeriad oedd pwysleisio'r tebygrwydd hwnnw.
Ond ar y sgriptio mae'r bai nad yw'r Alfie newydd yn gweithio yn hytrach na diffygion perfformiad.
Tra bo sgript 1966 Bill Naughton yn berthnasol frathog i'w chyfnod dydi hon ond yn ffilm arall efo lot o sglein ond fawr ddim i'w ddweud.
Perfformiad - a chymeriad - Susan Sarandon yw'r peth mwyaf cofiadwy ynddi o bell ffordd. Awgrymodd un beirniaid y byddai ffilm am ei chymeriad hi yn llawer difyrrach!
Ambell i farn Cymysg fu'r ymateb.
"Diweddariad slic," meddai gwefan Saesneg y Â鶹Éç ond yn gofidio fod y ffilm yn edrych yn well nag yw - yn gegog ond heb fawr ddim i'w ddweud mewn cymhariaeth a'r gwreiddiol.
Ond "What's it all about?" hola un arall - gan ateb ei hun, "Fawr ddim."
Ond wedi cael y ffilm yn eisiau ychwanega'r Times; "A dweud y gwir dydi'r ffilm ddim mor ddrwg a hynny ac mae gan y stori afael naturiol."
Y Times hefyd sy'n disgrifio dehongliad Law o Alfie fel "sex-mad Alan Whicker" yn ein tywys o gwmpas pyllau twym Manhattan.
Gwerth mynd i'w gweld Os ydych chi'n ffoli ar gymharu - ond gellir gwneud hynny ar DVD.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|