Fantastic Four Mwy neis nag o ffantastig
Y sêr Ioan Gruffudd, Michael Chiklis, Chris Evans, Jessica Alba, Julian McMahon,
Cyfarwyddwr Tim Story
Sgrifennu Michael France a Mark Frost - ar sail straeon comics Marvel.
Hyd 105 munud
Sut ffilm Rhagor o ddynion yn defnyddio galluoedd anghyffredin ond nid i achub y byd y tro hwn ond i achub eu hunain - rhag dyn o ddur o'r enw Von Doom. A dyna oedd ei enw cyn iddo droi'n ddrwg!
Y stori Yn dilyn damwain yn ystod taith i'r gofod mae pump o longwyr gofod yn etifeddu priodoleddau anghyffredin.
Mae'r arweinydd, gwyddonydd dawnus a thrwyadl o'r enw Reed Richards (Ioan Gruffudd) yn ennill y ddawn i ymestyn ei gorff fel pe byddai wedi ei wneud o lastig. Etifedda ei hen gariad, Susan Storm (Jessica Alba), y gallu i droi'n anweledig a chreu cylchoedd ynni. Gall ei brawd iau hi, Johnny Storm (Chris Evans), droi ei hun yn belen o dân - The Human Torch - a hedfan fel rhyw seren gynffon efo dolur rhydd drwy'r awyr. Rhinwedd newydd y peilot, Ben Grimm (Michael Chiklis) yw troi cyn galeted â charreg ac yn eithriadol o gryf ac mor hyll y mae'n cael ei adnabod fel y Thing .
Defnyddia'r miliwnydd Victor Von Doon (Julian McMahon) ei alluoedd newydd ef i reoli trydan er drwg gan orfodi'r pedwar i ymladd am eu bywyd rhag ei gynlluniau dichellgar i gael gwared â hwy - yn bennaf oherwydd bod y ferch anweledig y mae a'i lygaid arni yn closio at Reed unwaith eto.Y canlyniad Mae'n rhaid i rywun gael ei blesio - gan fod o leiaf bedair ffilm arall yn y pair.
Ond ffilm sy'n hynod o araf yn cychwyn yw hon. Yn ddymunol yn hytrach nag yn ffantastig - hyd yn oed yn yr ail hanner pan fo dipyn o hwyl wrth i'r pedwar gecru ymhlith ei gilydd wrth geisio dygymod a'u galluoedd newydd cyn asio'n gyfeillion i drechu Von Doom.
Y darnau gorau Yr olygfa ar bont Efrog Newydd pan yw y Thing yn achosi'r hunllef drafnidiaeth fwyaf ofnadwy wrth geisio perswadio dyn i beidio a thaflu ei hun oddi ar y bont. Tra'i fod o'n dod o hyd i'w nerth anhygoel, mae Johnny yn poethi, Sue yn mynd a dod a Mr Fantastic yn ymestyn ei hun i helpu pawb.
Yr ail olygfa orau ydi dyweddi y Thing yn dychwelyd ei fodrwy ddyweddïo iddo - am na all hi ddygymod a bod yn gariad i beth mor hyll! Oooooo.
Sue yn weledig ac anweledig bob yn ail ar y bont.
Perfformiadau Yng Nghymru fe fydde chi'n meddwl mai dim ond Ioan Gruffudd sy'n cymryd rhan yn y ffilm.
Ond chwarae teg, nid y wasg a'r cyfryngau Cymreig yn unig fu ar ei ôl a bu erthyglau canmoliaethus ym mhapurau Lloegr hefyd.
Bu'n gyfle i'w ddyfynnu sawl gwaith drosodd yn dweud ei fod o'n mwynhau Los Angeles ac awgrymu y bydd o maes o law yn gofyn i'w gariad, y mae'n byw â hi yno, ei briodi ac yn gyfel hefyd i ddarogan beth nesaf ddaw i'w ran.
O'r pedwar - ef sydd wedi cael y sylw mwyaf.
Parthed yr actorion eraill, mae'r cecru rhwng Y Dyn Tân a Thing yn gweithio'n well nag odid dim arall yn y ffilm.
Rhai geiriau "Tyd yn dy flaen - ychydig ddiwrnodau yn y gofod; be di'r peth gwaetha all ddigwydd i rywun?"
Rhai gwersi Mewn undeb mae nerth - ac mae'n rhaid wrth gydweithrediad amryfal alluoedd y pedwar i gael y llaw uchaf ar Doom.
Nid wrth eu golwg y mae beirniadu pobl - ond wedi dweud hynny merch ddall sy'n ymserchu yn Thing
Gystal â'r trelar? Dydio ddim gwaeth.
Ambell i farn Dywedodd un beirniad fod y Fantastic Four yn gwneud i i Batman Begins edrych fel rhywbeth wedi ei sgrifennu gan Dostoevsky gan ychwanegu na fydd y ffilm hon yn trethu meddwl y cyn-arddegau hyd yn oed a hithau wedi ei hanelu at y rhai sy'n dal i wlychu'u gwe;yau!
Dipyn o hwyl oind ymhell o fod yn ffantastig yw barn gwefan ffilmiau y Â鶹Éç ond mae'n prysuro i ychwanegu mai prif bwrpas y ffilm, beth bynnag, ydi gosod y seiliau ar gyfer rhagor o ffilmiau.
Rhoddodd y Daily Mirror ddwy ddalen ar draws ei ganol i'w hyrwyddo ond dywedodd y Guardian fod y pedwar fel pe byddent yn treulio'r rhan fwyaf o'u hamser yn gwenu'n swil i gymeradwyaeth pobl sy'n casglu o'u cwmpas.
Gwerth mynd i'w gweld? Yn fwy o ffilm neis nag o ffilm dda - a does iddi ddim mo'r un steil a gafael â Superman na'r ail Spiderman a'r Batman diwethaf - ond ydi, mae'n werth picio i'w gweld.Ffaith Gwnaed ffilm Fantastic Four o'r blaen ond na chafodd erioed ei dangos. Heb yn wybod i'r actorion ei hunig bwrpas oedd i gadw'r hawlfraint yn nwylo'r stiwdio. Oni bai fod ffilm wedi ei gwneud erbyn dyddiad penodol byddai'r hawlfraint yn cael ei golli! Beth sydd gan Ioan Gruffudd i'w ddweud?
Cysylltiadau Perthnasol
Meddai Ioan Gruffudd
Ioan Gruffudd
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|