Cellular Llinellau croes a dynion drwg da
Y sêr Chris Evans, Kim Basinger, William H Macy, Jason Statham, Eric Christian Olsen
Cyfarwyddwr David R Ellis
Sgrifennu Chris Morgan
Hyd 94 munud
Sut ffilm Un ddigon gwirion ac afresymegol mewn gwirionedd ond yn hynod o afaelgar ac yn hen hwyl iawn gyda'r dihirod atgas gam ar y blaen i'r bobol dda gydol yr amser. Er, weithiau dydi hi ddim yn hawdd iawn dweud pwy yn union sydd yn bobol ddrwg neu beth yw'r bobol ddrwg.
Bu'r gair Hitchcockaidd yn cael ei ddefnyddio er nad yw cyffyrddiad cain y meistr yma.
Y stori Ar ôl i Jessica Martin (Kim Basinger) eoi ei mab ar y bws i fynd i'r ysgol mae hi'n cael ei chipio gan griw o ddynion a'i charcharu mewn tŷ dieithr.
Er i'r ffôn gael ei falu llwydda hi, fel athrawes wyddoniaeth, i roi darnau ohono wrth ei gilydd yn ddigon da fel y gall alw allan.
Atebir yr alwad honno ar ei ffôn poced gan Ryan (Chris Evans) - llanc ifanc cwbl anghyfrifol ac annibynadwy sydd ganddo ddim byd gwell i'w wneud na bocha o gwmpas ar y traeth a gadael ei gariad i lawr byth a hefyd.
Fodd bynnag, llwydda Jessica i'w argyhoeddi iddi gael ei herwgipio ac mae'n ras wedyn rhyngddo ef a'r dihirod i'w hachub gyda phob math o droadau yn y stori wrth iddyn nhw sylweddoli, bob tro mae un drws yn agor fod dau arall yn cau.
Y darnau gorau Rasus ceir gafaelgar o amgylch Los Angeles a'r diweddglo ar bier Santa Monica..
Rhwystredigaeth prynu teclyn ailfywiogi ffôn symudol mewn siop.
Perfformiadau Basinger yn gyfuniad nad yw'n argyhoeddi o sterics a dyfeisgarwch gwyddonol.
Mae'r dihirod un ag oll yn argyhoeddi - yn filain a brwnt a bygythiol.
William H Macy fel y plismon profiadol ar fin ymddeol, yn wych a Jason Stratham yn wrthbwynt penigamp fel y dihiryn bygythiol, milain.
Er mai rhan fechan yw hi, mae'r twrnai gwrthun sy'n colli ei gar yn benigamp.
Gystal â'r trelar? Ydi.
Ambell i farn Ffilm gyffro sydyn, slic a sili meddai gwefan Saesneg y Â鶹Éç - ac yn llawer o hwyl.
Y canlyniad Mwynhad difeddwl gyda digon o droeon yn y stori i gadw diddordeb rhywun tan y diwedd un.
Y peth gorau ddywedwyd Un beirniad yn cwyno fod gwylio Jessica yn 'trwsio'r' ffôn fel gwylio Paris Hilton yn hollti'r atom.
Gwerth mynd i'w gweld Ydi tad.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|