The Duchess Cyfoeth a thrais mewn priodas
Y sêr
Keira Knightley; Ralph Fiennes; Hayley Atwell; Charlotte Rampling; Dominic Cooper; Aidan McArdle ac Emily Jewell.
Cyfarwyddo
Saul Dibb
Adolygiad Aled Edwards
Y mae'r ffilm foethus hon, sydd wedi ei seilio ar ddehongliad cywrain Amanda Foreman o fywyd yr aristocrat Georgiana Cavendish, yn lliwgar ac yn hanesyddol ddadlennol.
Er yn araf ei thempo weithiau mae'n llawn gwerth ei gweld.
Y bwriad gwreiddiol oedd i'r Duchess gael ei chyfarwyddo gan Susanne Bier ond fe gafodd ei chyfarwyddo'n derfynol gan Saul Dibb ac fe gwblhawyd y gwaith hwnnw yn goeth gan fanteisio ar fannau daearyddol trawiadol fel Chatsworth, Caerfaddon, Holkham Hall, Norfolk, Clandon Park, Kedleston Hall a Phrifysgol Greenwich: Llundain.
Gwisgoedd godidog Y mae'r gwisgoedd yn wirioneddol odidog ac yn sicr o hawlio talp o'r miliynau a gostiodd y ffilm i'w chynhyrchu dan nawdd y Â鶹Éç a Pathe.
Dyma'r prif actorion:
Keira Knightley fel Georgiana Cavendish; Ralph Fiennes fel William Cavendish; Hayley Atwell fel Elizabeth Cavendish; Charlotte Rampling fel Lady Spencer; Dominic Cooper fel Charles Grey, Ail Iarll Grey; Aidan McArdle fel Richard Brinsley Sheridan ac Emily Jewell fel Nanny.
Mae perfformiad Keira Knightley fel Georgiana Cavendish yn feistrolgar ac yn amrywiol ei fynegiant.
Mae ei chyflwyniad yn trafod gwasanaeth ffyddlon gwraig diniwed ifanc yn ei harddegau yn 1774 i wraig fwy aeddfed a orfodwyd i osod o'r neilltu y baban a anwyd iddi, Eliza Courtney, o berthynas odinebus a Charles Grey.
Moethusrwydd a gwleidydda Cafwyd dyfnder hefyd yn y modd y trafodwyd cymhlethdod ymateb Georgiana i orfod byw ar yr un aelwyd a meistres ei gŵr, Lady Bess Foster.
Llwyddwyd hefyd i danlinellu cyferbyniad sylfaenol moethusrwydd byw Georgiana a'i theulu - gan gynnwys y gamblo, y dawnsio a'r gwledda - a gwleidydda arloesol y Whigs cynnar.
Bu Georgiana farw yn 48 oed ac mewn dyled.
Mae perfformiad Ralph Fiennes fel William Cavendish hefyd yn drawiadol a gwelir ei grefft yn un o olygfeydd mwyaf dadleuol y ffilm sy'n portreadu trais priodasol.
Sylwer taw ffilm 12A yw hon a chafodd hyn ei ganiatáu oherwydd i'r trais gael ei fynegi drwy sgrechfeydd Georgiana yn hytrach na lluniau trawiadol.
Beirniadaeth Cafwyd peth beirniadaeth i Fiennes lwyddo i ennill peth cydymdeimlad i'w gymeriad pan nad oedd y cymeriad hanesyddol yn haeddu hynny ond tybiaf taw beirniadaeth annheg a geir yma. Ceir rhyw rinwedd ym mhawb ynghyd a chymhlethdod.
I mi, prif lwyddiant y ffilm hon yw ei bod yn gwneud holl gymeriadau y byd od hwn dros ddwy ganrif yn ôl yn gredadwy. Fe ddywedodd rhywbeth hefyd wrth ein cymdeithas ni. Nid yw'r cymariaethau â helynt Diana yn hollol amherthnasol.
|
|