The Simpsons Movie Plesio - ond mae rhaglenni doniolach
Adolygiad Carys Mair Davies o The Simpsons Movie.
Nid yn unig mae The Simpsons Movie yn un o ffilmiau mwyaf 2007 ond y mae hefyd yn ffilm y bu disgwyl mawr amdani.
Anodd credu i'r cynhyrchwyr ddechrau gweithredu ar y syniad cyn belled yn ôl â 1990 - ond yn fy marn i, bu'n werth yr holl aros
Yn y ffilm mae Homer yn achub mochyn rhag marwolaeth greulon a'i fabwysiadu'n anifail anwes a'i drin gystal os nad gwell na'i deulu.
Ond ond mae o hefyd yn creu argyfwng amgylcheddol trwy arllwys gwastraff yr anifail i afon Springfield a'i llygru gan orfodi Adran Iechyd yr Amgylchedd i gau Springfield.
Y peryglMae pob ffilm sydd wedi deillio o lyfr, rhaglen neu gyfres deledu mewn perygl o roi enw drwg i'r gwreiddiol ond nid felly y tro hwn.
Ymunir â'r teulu bach hoffus gan gast o filoedd - o Moe i Mr. Burns a'r Bumblebee Man - wrth iddynt baratoi i "ladd, lladd, lladd" Homer.
Gwnaeth James L. Brooks a chrewr The Simpsons, Matt Groenig, y penderfyniad iawn i beidio a gwneud ffilm dair awr a dim ond am gyfnodau byr y gwelir yr amrywiol gymeriadau yn y ffilm.
Er nad yw'r ffilm yn arbennig fel cyfanwaith ceir rhannau gwych ynddi ac er nad oedd chwerthin y gynulleidfa yn fawr yr oedd yn aml.
Tystysgrif PG sydd iddi a chredaf fod hynny'n addas er bod lle i ddadlau y byddai 12 yn well i rai rhannau.
Ond, da chi, os ydych yn mwynhau'r gyfres deledu ewch i weld The Simpsons Movie - nid yn gymaint am y plot ond i weld y mannau doniol a'r tynnu coes sydd wedi'u taenu drosti.
Ond wedi dweud hynny, buaswn yr un mor hapus yn ail wylio rhai o'r rhaglenni gan fod rhai doniolach yn bodoli na'r ffilm hon - ond mae hi yn haeddu wyth allan o ddeg!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
Cysylltiadau Perthnasol
Barn Gareth Potter
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|