Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Lassie (2005)
Ci a gerddo . . .

PG

Pedair seren allan o bump

Y sêr
Jonathan Mason; Peter O'Toole, Samantha Morton, John Lynch, Peter Dinklage, Robert Hardy, Steve Pemberton

Cyfarwyddo
Charles Sturridge

Sgrifennu
Charles Sturridge ar sail nofel Eric Knight.

Hyd
100 munud

Sut ffilm
Taith ryfeddol ci ffyddlon - Ci a gafodd ar ôl cerdded, yn wir

Y stori
Yn Selby, Swydd Efrog, mae Lassie yno'n ddi-ffael wrth giât yr ysgol i gyfarfod Jo Carraclough (Jonathan Mason) ar ddiwedd dydd.

Ond pan fo'r pwll glo lleol yn cau; er mwyn cael dau ben llinyn ynghyd rhaid i Sam a Sarah Carraclough (John Lynch a Samantha Morton), tad a mam Joe, werthu Lassie i'r pendefig lleol, Dug Rudling (Peter O'Toole) - sydd ei heisiau i godi calon ei wyres bruddglwyfus, Cilla (Hester Odgers).

Wrth gwrs mae Lassie yn mynnu dianc a dychwelyd at Joe bob cyfle gaiff. Ond, deulu gonest ac anrhydeddus ag yw, mae'r Carracloughs yn ei dychwelyd i'r Dug bob tro i'w rhoi eto yng ngofal y meistr cŵn brwnt a ffiaidd, Hynes (Steve Pemberton).

Hyd yn oed pan fo'r Dug yn symud i hafota yng ngogledd eithaf Yr Alban mae Lassie yn dianc o ddwylo Hynes a chychwyn ar daith beryglus yn ôl at Joe, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd.

Mae sawl antur ar y ffordd gan gynnwys cip ar anghenfil Loch Ness, cael ei bygwth gan ffarmwr â gwn, cael ei herlid gan ddynion dal cŵn hyd strydoedd Glasgow, ac ysbaid fwy dymunol yng nghwmni corrach crwydrol gyda sioe bypedau (Peter Dinklage).

Y canlyniad
Does yna ddim byd gwell na rhyfel dosbarth hen-ffasiwn i hogi rhagfarnau greddfol rhywun! Y teulu bach - cyffredin, gonest a gweithgar - yn ei fwthyn tlawd ond diddos ar y naill law a'r pendefig trahaus, crand ei acen, ar y llaw arall!

A dyna a gawn ar gychwyn Lassie wrth i'r Dug fanteisio ar dlodi'r Carracloughs a defnyddio'i arian i gael Lassie i'r wyres fach sy'n hiraethu am eu rhieni sy'n byw yn Llundain.

Lassie Yn anffodus, dydi'r syniad traddodiadol hwn o drechaf treisied gwanaf gwinged ddim yn parhau ac erbyn y diwedd gwelir mai calon ddigon meddal sydd gan yr hen Ddug dan y rhwysg allanol. Ei gynffonnwr o was cyflog, Hynes, yw'r gwir ddihiryn a buan iawn y caiff hwnnw gic bendefigaidd yn ei ben ôl.

Yn wir, molawd i'r syniad traddodiadol o bobl yn gwybod eu lle gyda'r pendefig yn ei blasdy a'i weision yn ei fythynnod ar rent yw un Charles Sturridge.

Daw'r stori i'w therfyn ar drothwy'r Nadolig ac ysbryd yr ŵyl honno sy'n teyrnasu gyda phawb, gan gynnwys Joe, ei dad, ei fam a Lassie, yn hapus byth mwyach tra bo Hynes yn ei gwt yn llyfu'i glwyfau.

Y sefyllfa berffaith ar gyfer dilyniant.

Crio?
A ydi Rhodri Morgan yn arbenigwr ar hwyaid?
Ooooooo - byddwch fwy o angen ffunen na phopcorn.

Y darnau gorau

  • Ffilm gymesur yw hon heb olygfeydd mawrion - ond fe fydd y diweddglo Nadoligaidd a Lassie'n hanner marw yn yr eira wedi ei thaith bedestraidd o'r Alban yn cyffwrdd sawl calon.
  • Mwynhewch y frwydr rhwng y dihirod a'r corrach.

    Perfformiadau
  • Gwyliwch am gameos gan nifer o actorion adnabyddus sy'n cynnwys Edward Fox, Robert Hardy a Nicholas Lyndhurst.
  • Mae Jonathan Mason yntau yn gwneud diwrnod da o waith fel Joe. Drygionus ac annwyl ar yr un pryd - fel y dylai pob arwr o blentyn fod.
  • Mae Peter O'Toole yn mwynhau pob eiliad o fod yn Ddug esentrig.

    Gystal â'r trelar?
    Heb weld un.

    Ambell i farn
    Yn y Sunday Times roedd y pennawd gorau: Flair of the Dog.

    Ci o frîd
    Mewn stori fer, Lassie Come Home a gyhoeddwyd yn The SaturdayEvening Post yn yr Unol Daleithiau yr adrododd Eric Knight stori Lassie gyntaf.

    Yn y stori honno bu Lassie yn disgwyl Joe ddeg oed wrth giât yr ysgol bob diwetydd am bedair blynedd nes y collodd tad Joe ei waith a gorfod gwerthu'r ci i bendefig lleol er mwyn cael arian i fyw.

    Ar ôl cael ei chludo i berfeddion yr Alban dihangodd Lassie gan gychwyn ar daith anturus yn ôl at Joe gan gerdded mil o filltiroedd i gyd cyn cyrraedd giât yr ysgol mewn storm o eira.

    Cafodd y stori gystal derbyniad fe'i hymestynnwyd gan Knight a'i chyhoeddi'n llyfr yn 1940. Yn fuan iawn yr oedd hwnnw ar gael mewn 25 o wahanol ieithoedd.

    Ymddangosodd y ffilm gyntaf, Lassie Come Home, yn 1943 gydag Elizabeth Taylor ddeg oed yn cymryd rhan.

    Dilynwyd Lassie Come Home gan saith ffilm Lassie arall a chyfresi radio a theledu - ond blas Americanaidd oedd i'r rhain i gyd.

    Ci - yn hytrach na gast - o'r enw Pal a chwaraeodd ran Lassie yn y ffilm wreiddiol. Collodd yr ast a ddewiswyd yn gyntaf y rhan oherwydd iddi ddechrau bwrw'i blew adeg ffilmio.

    Bu Pal mor llwyddiannus y cafodd ei ddisgrifio gan un adolygydd fel "Greer Garson efo blew" ac ef chwaraeodd y rhan yn chwech o'r saith ffilm a ddilynodd ac ef a glywyd yn cyfarth ac yn chwyrnu ar The Lassie Radio Show.

    Yn 1962, ymddangosodd Lassie's Great Adventure.

    Cadwyd y rhan yn y teulu, fel petai, gyda Lassie yn cael ei chwarae gan bedair cenhedlaeth o gŵn o'r un tras rhwng 1954 a 1973 ac yn y ffilm The Magic of Lassie yn 1978 parhawyd â'r arfer i ddefnyddio ci, yn hytrach na gast - yr wythfed genhedlaeth o'r un llinach o gŵn y tro hwn!

    Yn 1973 gwnaeth y cynhyrchwyr bethau'n haws iddyn nhw'u hunain trwy greu cyfres gartŵn, Lassie Rescue Rangers.

    Yr awdur
    Yr oedd Eric Knight ei hun yn awdur diddorol. Fel Joe Carraclough yr oedd yntau yn fab i löwr yn Swydd Efrog ond bu farw ei dad pan nad oedd Eric ond yn dair oed. Wedi rhai blynyddoedd yn gweithio'n blentyn yn y pyllau gadawodd yn 15 oed am yr Unol Daleithiau i geisio gwell a chafodd ei addysg yn Boston.

    Adeg y Rhyfel Byd Cyntaf dychwelodd i Ewrop yn filwr ym myddin Canada.

    Wedi'r rhyfel bu'n ymhél ag amrywiaeth o waith gan droi at newyddiaduraeth yn y diwedd ac ennill ei blwyf yn feirniad ffilm yn Philadelphia cyn troi at ffermio a sgrifennu.

    Ond diwedd trist a fu iddo -yn swyddog yn adran gwneud ffilmiau byddin yr Unol Daleithiau fe'i lladdwyd pan ddaeth ei awyren i lawr yn 1943.

    Ymhlith ei lyfrau eraill cyhoeddodd Portrait of a Flying Yorkshireman a nofel a gyhoeddwyd yn 1938, You Play the Black and the Red Comes Up.

    Man a lle
    Er mai yn yr Alban a Swydd Efrog mae'r stori yn Iwerddon ac Ynys Manaw y bu llawer o'r ffilmio. Golygfeydd gwych.

    Gwerth ei gweld?
    Hei, on'd yw pawb yn hoffi stori seml, hen-ffasiwn, dda o bryd i'w gilydd? Newid braf o'r holl ruthro, rasio, saethu a mynd dros ben llestri sydd yn y sinema y dyddiau hyn.
    Hen ffasiwn efallai ond mae stori dda bob amser yn gafael.



  • cyfannwch


    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad:

    Sylw:



    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.

    Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý