Blood Diamond Byd hyll a chreulon y cerrig llachar
Y sêr
Leonardo DiCaprio, Djimon Hounsou, Jennifer Connelly, Arnold Vosloo, David Harewood
Cyfarwyddo
Ed Zwick
Sgrifennu
Charles Leavitt, C. Gaby Mitchell
Hyd
143 munud
Sut ffilm
Gallai hon fod yn ddim amgenach na ffilm antur draddodiadol am ymdrech i fod y cyntaf i gyrraedd trysor wedi'i gladdu - ond gyda'i darlun beirniadol o'r fasnach ddiemwntau fyd-eang, ei golwg ar gyflwr Affrica a'r defnydd o blant yn filwyr mae'n cynnig mwy na hynny.
Ie Affrica - mae'r cyfandir hwnnw yn uchel ar restr gwneud ffilmiau y stiwdios y dyddiau hyn. O fewn y dyddiau diwethaf gwelwyd ffilmiau mor amrywiol â Babel, Last King of Scotland a hon yn cyrraedd y sinemâu.
A does fawr o dro er pan ymddangosodd The Constant Gardener gyda chryn debygrwydd rhyngddi a Blood Diamond yn ei darlun o dwyll, dichell a chynllwynio rhyngwladol ar draul Affricaniaid tlawd.
Efallai fod Marilyn Monroe yn iawn nad oes gwell ffrind i fenyw na diemwnt ond dengys Blood Diamond eu bod yn bopeth ond llesol i'r trueiniaid sy'n tyllu amdanynt.
Yn ffilm Zwick yr hyn a gawn yw athronyddu am hyn a chyflwr Affrica bob yn ail a chyffro, ffrwydro a darluniau o greulondeb dramatig sy'n gwneud Blood Diamond yn ffilm antur ragorol ond braidd yn amrwd ei moesoli.
Ond efallai nad rhywbeth i gwyno amdano yw hynny gan na fydd neb yn gadael y sinema heb sylweddoli fod gorthrwm a chwant yn troi bywyd diniweition y peth mwyaf truenus a chreulon y gellid ei ddychmygu.
Rhwng popeth, mae Blood Diamond yn dipyn o reid fel maen nhw'n dweud.
Y stori
Sierra Leone y Nawdegau yw hi â physgotwr tlawd, Solomon Vandy (Djimon Honsou), yn cydgerdded â'i fab ar y ffordd adref o'r ysgol. Mae'n fachgen da a'i fryd ar fod yn feddyg - ond mwyaf sydyn mae'r sgwrs gartrefol yn cael ei chwalu wrth i derfysgwyr arfog ymosod ar y pentref yn saethu, lladd a chipio.
Mae gwraig a phlant Solomon yn cael eu cipio a'u cadw maes o law mewn gwesyll ffoaduriaid tra bo Solomon ei hun yn cael ei orfodi i gloddio gydag eraill am diemwntiau anghyfreithlon. Mae'n darganfod diemwnt enfawr anghyffredin y llwydda i'w chuddio cyn dianc oddi yno.
Yn y cyfamser mae ei fab bychan yn cael ei hyfforddi'n filwr a'i ddysgu i drin gynnau a lladd fel miloedd o blant eraill mewn gwlad lle mae rhyfel yn rhaib.
O ddianc o ddwylo'r mwynwyr mae Solomon yn cychwyn ar daith enbyd i ddarganfod ei deulu ac adfer y diemwnt a guddiodd.
Yn hyn o beth daw i gysylltiad a smyglwr diemwntau diegwyddor, Danny Archer (Leonardo DiCaprio) a Maddy Bowen (Jennifer Connelly), newyddiadurwraig Americanaidd ryddfrydol ei thueddiadau sydd â'i bryd ar ddatgelu'r gwir am y farchnad ddiemwntau anghyfreithlon fyd-eang sy'n ffynnu ar draul y diniwed.
O raid, dyw'r llwybr sy'n arwain at y diemwnt cudd ddim yn un hwylus a'r tri yn wynebu peryglon di-rif yn dianc rhag milwyr a therfysgwyr.
Wrth gwrs mae'r Danny a Maddy anghymarus yn syrthio mewn cariad ac wrth gwrs bod Danny'n darganfod nid yn unig fod ganddo galon feddal ond egwyddorion hefyd diolch i ddylanwad y newyddiadurwraig dlos.
Y canlyniad Ffilm antur ragorol sydd hefyd trwy gyfrwng golygfeydd ffrwydrol a dirdynnol yn tynnu sylw at gyflwr enbydus Sierra Leone yn y Nawdegau yn cael ei rhwygo gan ryfeloedd a lle'r oedd miloedd o blant bychain fel mab Solomon yn cael eu troi'n lladdwyr dideimlad.
Mae'r golygfeydd o'r byddinoedd o blant hyn yn creu gwir arswyd ac mae'r olygfa lle mae'r tad, Solomon, yn wynebu ei fab ei hun yn anelu dryll ato yn ysgytwol.
Ambell i farn Y duedd yw i ystyried ymdriniaeth Zwick o faterion egwyddorol braidd yn drwsgl ac arwynebol ac hyd yn oed yn bregethwrol ar adegau - ond mae pawb yn cydnabod fod y stori antur yn rhagorol.
Efallai mai Philip French yn yr Observer sy'n crynhoi natur y ffilm orau:
"Mewn oes arall byddai wedi bod yn stori antur yn nhraddodiad King Solomon's Mines Rider Haggard. Yma, thriller wleidyddol yw hi ar lwyfan rhyngwladol."
Fel 'stori antur i hogiau' mae gwefan y Â鶹Éç yn ei gweld yn rhagori gyda'i chyfuniad o gynhyrchu drud a deniadol, actio 'classy' a stori dda.
Dwy seren yn unig mae'r Guardian yn ei roi iddi gyda Peter Bradshaw yn dweud mai Gerald Ratner yn hytrach Harry Winston yw hi!
Yn ffodus i Zwick mae'n ymddangos bod cynulleidfaoedd yn haws i'w plesio na'r beirniaid.
Perfformiadau Er mai teipiau yn hytrach na chymeriadau llawn sydd yma mae'r prif rannau'n cael eu chwarae'n ddeheuig ddigon - er bydd rhai'n clywed acen Affricanaidd DiCaprio braidd yn chwithig.
Mae rhai golygfeydd grymus iawn gyda Djimon Hounsou - un o actorion mwyaf prydweddol y dyddiau hyn - gan gynnwys un lle mae'n goffwyllo'n llwyr ac yn ymosod gyda rhaw ar elyn.
Mae'r garwriaeth rhwng DiCaptio a Connelly yn gweithio'n ddigon deche hefyd.
Mae Ato Essandoh yn ddihiryn sy'n codi'r ofn mwyaf.
Darnau gorauMae'r golygfeydd rhyfelgar i gyd o'r radd flaenaf. Yn arbennig ymosodiad yr hofrennydd arfog.
Y mab gyda dryll yn ei law yn wynebu'r tad.
Golygfeydd trawiadol o Sierra Leone.
Gwerth ei gweld?
Yn wir, gan bob un sy'n tybio mai diemwnt yw ffrind gorau'r menywod. Nid yn unig yn sbardun i feddwl am Affrica ond yn codi cwr y llen ar t ffordd mae'r gwledydd cyfoethog yn manteisio ar gyfoeth gwledydd tlawd y byd.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|