Bewitched Hud a lledrith heb swyn
Bewitchedfgh
Y sêr Nicole Kidman, Will Ferrell, Shirley MacLaine, Michael Caine, Jason Schwartzman, Kristin Chenoweth
Cyfarwyddwr Nora Ephron
Sgrifennu Nora Ephron a'i chwaer, Delia Ephron
Hyd 102 munud
Sut ffilm Pennod hanner awr o gomedi sefyllfa deledu wedi ei hymestyn i awr a hanner.
Y stori Ynghanol cyfnod hesb penderfyna actor annioddefol o hunandybus, Jack Wyatt (Will Ferrell), geisio adfer ei yrfa trwy gymryd rhan mewn diweddariad o'r gyfres deledu boblogaidd o'r chwedegau, Bewitched, lle chwaraeai Elizabeth Montgomery ran gwrach yn ceisio byw bywyd cyffredin.
Tra'n chwilio am rywun i chwarae'r rhan Elizabeth Montgomery mae Wyatt yn gwirioni gydag Isabel Bigelow (Nicole Kidman) y mae'n ei chyfarfod mewn siop lyfrau. Mae'n ei pherswadio i chwarae'r rhan oherwydd ei medr i symud ei thrwyn fel y gwnâi Montgomery gynt ond yn bennaf am nad yw hi'n enwog a hynny'n mynd i'w gwneud hi'n haws iddo ef hawlio'r holl sylw.
Heb yn wybod iddo ef mae Isabel yn wrach go iawn - ond yn un sydd a'i bryd ar fyw bywyd cyffredin a rhoi heibio ei doniau hyd a lledrith.
Hynny er gwaethaf rhybuddion ei dewin o dad, Uncle Arthur, (Michael Caine).
Ciciau a brathiadau'r cariad sy'n magu rhwng y ddau ohonyn nhw yw gweddill y ffilm ac Isabel yn methu'n glir ag ymwrthod â'i doniau rhyfeddol pan fo'u hangen i gael ei hun allan o drafferthion.
Yn y cefndir mae Uncle Arthur yn ymgyfeillachu ag actores sy'n chwarae rhan Endora (Shirley MacLaine), heb yn wybod iddo fo, ei bod hithau'n wrach hefyd, ac yn ei hudo heb yn wybod iddo ef ei hun . . . Chwerthin? Fe fyddwch chi'n meddwl y bydd y ffilm wedi gorffen cyn ichi ddechrau.
Y canlyniad Chwalfa o ffilm sy'n llawer rhy hir ar gyfer ei stori. Efallai i'r gyfres deledu Americanaidd gydag Elizabeth Montgomery fod yn ddigon difyr yn y chwedegau ond hyd yn oed gyda'r diweddaru clyfar ynglÅ·n ag ail-wneud y gyfres honno a'r dychan o Hollywood y dydd heddiw mae'r cyfan yn rhy denau i gynnal diddordeb rhywun am awr a hanner.
Y darnau gorau Mae rhai o'r triciau hud a lledrith yn ddigon difyr - megis gallu Isabel i redeg amser yn ôl megis ar sgrîn fideo.
Hefyd, Uncle Arthur yn ymddangos ar silffoedd archfarchnad pan fo Isabel yn siopa.
Ond er yn ddigon dymunol mae cynnwys Witchcraft Sinatra a Bewitched Steve Lawrence yn y cefndir yn ystrydebol ac yn arwydd o ddiffyg gwreiddioldeb cyffredinol.
Perfformiadau Dyw Nicole Kidman ddim i'w gweld yn siŵr ai blonden dwp 'ta beth yw Isabel. Er yn ddigon annwyl ar adegau does yma fawr o apêl ac y mae yna ben draw i faint o weithiau y gallwch chi ysgwyd eich trwyn pan fo'r sgript yn brin o jôcs. Haedda actores mor ddawnus well na hyn - ond mae Bewitched yn ffodus iawn ohoni.
Ni fydd yn syndod i neb fod Will Ferrell dros ben llestri'r rhan fwyaf o'r amser wrth i'w gymeriad bendilio rhwng yr annioddefol a'r hen foi iawn yn y bôn.
Mae Shirley MacLaine yn chwa o awyr iach fel yr actores sydd am fachu Uncle Arthur.
Mae pethau'n bywiogi hefyd yn ystod ymddangosiad Carole Shelley fel y wrach ffwndrus, Aunt Clara.
Rhan y dylid fod wedi gwneud mwy ohoni yw un cynorthwyydd y cynhyrchiad sy'n ymgyfeillachu ag Isabel.
Rhai geiriau "Bydd ddistaw - neu mi fyddai'n rhoi cynffon iti."
"Dos adref." "Ble mae fanno?" "Lle bynnag wyt ti hapusaf."
Gystal â'r trelar? Na.
Ambell i farn Siomedig yw'r rhan fwyaf gyda sawl un wedi disgwyl mwy o weld enw Nora Ephron yn gyfarwyddwr. Byddai'n werth cyfrif sawl un sy'n dweud nad yw Bewitched yn yr un cae a When Harry Met Sally!
Yn ôl gwefan Saesneg y Â鶹Éç byddwch yn gadael y sinema heb eich swyno o gwbl.
Anodd anghydweld â beirniad arall sy'n dweud y dylai Kidman fod yn dewis rhannau gyda mwy o ofal yn awr bod cymaint o alw am ei doniau diamheuol.
Daeth yr ergyd g'letaf fodd bynnag oddi wrth feirniad a ddywedodd ei bod yn fendith nad yw holl brif actorion y gyfres wreiddiol yn fyw i weld y stomp a wnaed o'u cyfres gan Hollywood heddiw.
Gwerth mynd i'w gweld? Er nad yn wastraff llwyr ar amser mae sawl peth arall mwy buddiol y gellir ei wneud.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|