Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
ffilm

Â鶹Éç Homepage
»Cylchgrawn
Llyfrau
Theatr
Ffilm
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý


Burn After Reading
Clooney a Pitt yn groes i'r graen

15

Pedairseren allan o bump

Y sêr
George Clooney, Frances McDormand, Brad Pitt, John Malkovich, Tilda Swinton, Richard Jenkins.

Cyfarwyddo
Joel ac Ethan Coen

Hyd
96 munud

  • Adolygiad Lowri Haf Cooke

    Tybed be ydy "Mad-Cap-Comedy-Crime-Caper" yn Gymraeg?
    Ar lefel hollol arwynebol, dyna un disgrifiad o ffilm ddiweddara'r brodyr Coen o'r Unol Daleithiau, Burn After Reading.

    Torrodd y cynhyrchiad bob record ariannol am ffilm annibynnol pan saethodd i frig siartiau ffilm America yn ddiweddar, a chafodd premieres niferus y cynhyrchiad sylw anferthol yn y wasg, diolch yn bennaf i bresenoldeb dau o sêr y ffilm, "Gorgeous Gorge" Clooney a Mr Angelina Jolie, Brad Pitt, ar garpedi cochion gwyliau ffilm rhyngwladol.

    Ie, mae'n debyg mai'r ddau yma ydy'r prif atyniad i nifer, ond gwell imi eich rhybuddio, nid Ocean's 14 mo hon ... diolch byth am hynny.

    Mynnu gwyrdroadau llwyr
    Yn hytrach na vanity-project i'r ddau gael arddangos eu dannedd gwynion a'u siwtiau Armani , dyma ffilm sydd yn mynnu gwyrdroad llwyr o'u perfformiadau arferol fel 'goruwch ddynion', er mwyn chwarae dau dwpsyn di-glem mewn cynhyrchiad sydd yn orlawn ohonynt.

    Peidiwch â nghamddeall i, dydw i ddim yn sôn am Dumb 'n Dumber o ffilm yma, oherwydd ar un wedd, mae Burn After Reading yn thriller soffistigedig am beryglon paranoia, wedi'i gosod yn Washington DC.

    Ond mae hi hefyd yn gomedi ddychanol sydd yn gwneud hwyl am ben rhai o ddinasyddion a gwybodusion honedig "Intelligence Capital" y byd.

    Ymhyfrydu mewn arbrofi
    Os ydy'r gwrthgyferbyniad anghonfensiynol yma yn swnio braidd yn ddryslyd, mae'n werth cofio mai gweledigaeth Joel ac Ethan Coen sy'n tra-arglwyddiaethu dros Burn After Reading - dau ddyn sy'n ymhyfrydu mewn arbrofi ac yn adnabyddus am neidio o un genre i'r llall gyda phob un cynhyrchiad o'u heiddo.

    Mae'r ddau wedi cyd-gynhyrchu, cyd-cyfarwyddo, cyd-olygu (a chyd-sgwennu, dan y ffugenw Roderick Jaynes) dros ugain ffilm, gan gynnwys y dramâu Blood Simple a Miller's Crossing, y comedïau tywyll Raizing Arizona, The Big Lebowski a Fargo, y retro-rom-com Intolerable Cruelty, a'r Western cyfoes No Country For Old Men a gipiodd sawl Oscar eleni am gyfuno delweddau hudolus o anialdir Texas gyda chwip o stori am ddialedd un dyn gorffwyll. Javier Bardem chwareodd y gwallgofddyn hwnnw, gyda bob dychrynllyd am ei ben, a rhaid dweud i'r brodyr barhau â'r thema hair-don't yn dra llwyddiannus yma, wrth i bouffant Brad Pitt bron iawn a llwyddo i ddwyn pob un golygfa yr ymddangosai ynddi.

    Arbenigwyr di-glem
    Y tro hwn, gosododd y brodyr o Minnesota yr her iddyn nhw eu hunain o gyflwyno thriller wleidyddol gyda throad reit allweddol yn y gynffon fod yr "arbenigwyr" yn gwbl ddi-glem, a hynny gan ddilyn confensiynau cyfarwyddo brenin yr action blockbuster, Ridley Scott.

    Ac os nad oedd hynny'n ddigon, roedden nhw hefyd yn awyddus i gyflwyno cyfres o gymeriadau digon annymunol y gallai'r gynulleidfa uniaethu â nhw, a chyflwyno'r Bonheddwyr Pitt a Clooney ar ffurf dau sleaze llwyr.
    A rhaid dweud iddynt lwyddo i raddau helaeth iawn.

    Yn wir, serch y pwyslais ar Pitt a Clooney yn yr ymgyrch farchnata, gellid dadlau'n gryf mai ffilm ensemble yw hon, gyda dream cast o actorion sydd â chryn statws yn Hollywood, ac mai'r ddau hync, os rhywbeth, sydd â'r mwyaf i brofi - a'r mwyaf i'w golli.

    Y stori
    Mae'r ffilm yn dechrau mewn swyddfa anhysbys ym Mhencadlys y CIA yn Langley, Virginia, lle cawn ein cyflwyno i'r dadansoddwr Osbourne Cox (John Malkovich) wrth iddo glywed fod ei swydd yn cael ei hisraddio am resymau cwbl annelwig.

    Mae hynny'n peri i Cox ymddiswyddo mewn cynddaredd, gyda'r bwriad o sgwennu hunangofiant, rhywbeth sydd y cythruddo'i wraig Katie (Tilda Swinton) meddyg teulu a control-freak o'r radd flaena sydd mewn perthynas odinebus ag un o weision y trysorlys, Harry Pfarrer (George Clooney).

    Yn cydredeg â hyn mae stori Linda a Chad (Frances McDormand a Brad Pitt), dau gydweithiwr yng nghampfa Hardbodies sy'n darganfod disg gyfrifiadurol sydd yn cynnwys gwybodaeth o eiddo Cox y mae nhw'n credu sydd yn llawn cyfrinachau gwerthfawr.

    Yn erbyn cyngor eu rheolwr Ted - dyn â gorffennol - maen nhw'n mynd ati i geisio hawlio "treth y Samariad Trugarog" oddi wrth Cox; penderfyniad sydd yn arwain at gymhlethdodau anochel ac, wrth i stori'r chwech gyd blethu, oblygiadau dyrys i bawb.

    Yn llwyddiant
    Bu penderfyniad y Coens i gyflwyno hyn oll yn null action blockbusters Ridley Scott, yn llwyddiant yn ystod munudau agoriadol y ffilm, wrth i'r cynhyrchiad ddechrau o bersbectif camera lloeren filltiroedd uwchben y ddaear gan ostwng yn gyflym a glanio mewn coridor ym mhencadlys y CIA, cyn dilyn cerddediad brysiog Malkovich i'r swyddfa.

    Caiff hyn ei gyflwyno i gyfeiliant cerddoriaeth gynhyrfus Carter Burwell i ddynodi digwyddiad o bwys gwleidyddol mawr, ar y cyd â gwaith golygu yr un mor slic a chyflym ag a welwyd ychydig funudau ynghynt mewn hysbyseb ar gyfer ffilm diweddara' Ridley Scott, Body of Lies - thriller gwleidyddol am ysbiwyr y CIA gyda Russell Crowe a Leornado Di Caprio!

    Adleisir y gerddoriaeth a'r un steil olygu frysiog yn ystod y ffilm, yn ogystal â'r thema o baranoia trosgynnol fod pawb yn monitro pawb, ond rhaid dweud na lwyddwyd i gynnal hynny drwyddi draw, a hynny am un rheswm arbennig; asgwrn cefn y ffilm, sef y sgwennu.

    Os oes na un peth sydd yn gyson ym mhob un o ffilmiau'r brodyr Coen, yna deialog ffraeth yw hynny, sydd yn adlewyrchu sgript gref, stori dda a chymeriadau cyflawn.

    Yn wir, does dim un cymeriad dibwys yn y ffilm yma.

    Tu hwnt o hunanol
    Mae pob un o gymeriadau Burn After Reading yn bobol tu hwnt o hunanol sydd yn haeddu pob dim sy'n dod i'w rhan ond, ar yr un pryd, mae modd cydymdeimlo'n llwyr â nhw i gyd; o'r cyn ysbïwr chwerw, Cox, sydd ar ganol creisus canol oed ingol o boenus, i'w wraig, y meddyg oeraidd sydd yn orymarferol am ddod â'u priodas i ben; yna Harry, y godinebwr gwangalon gyda'i five mile runs a'i ffug honiadau o fod ag alergedd bwyd i bopeth, hyd at Linda Litzky, is-reolwraig y gampfa fyddai'n fodlon gwneud unrhyw beth er mwyn gallu fforddio total body overhaul o dan y gyllell; ei rheolwr Ted sydd mewn cariad â hi, a'i chydweithiwr Chad, yr hardbody hurt sy'n honni arbenigedd mewn ysbio.

    Maen nhw'n gymeriadau y mae actorion yn ffoli arnynt, ac yn wir, y math o rannau y mae ambell un yn ennill llu o wobrau amdanynt, yn enwedig yng nghategori'r Actor neu Actores Gynorthwyol, a hynny am eu bod yn cynnig y rhyddid i actor wneud rhywbeth hollol wahanol i'r arfer gan nad ydynt dan bwysau i "gario'r" ffilm.

    Ceir gwledd o berfformiadau cryfion yn y ffilm hon, yn enwedig gan Frances McDormand a Tilda Swinton, ond rhaid canmol Brad Pitt am fynd amdani go iawn gyda'i ddehongliad hynod ddifyr o gym-bunny über-arwynebol sydd yn gwbl ddall i'w dwpdra ei hun.

    Yn erbyn y delweddau
    Yn achos Clooney, wel dyma'i drydydd dehongliad o "Sleazy-Idiot" (yn ôl ei gyfaddefiad ei hun) mewn ffilm gan y brodyr Coen (yn dilyn O Brother, Where Art Thou? ac Intolerable Cruelty), ac mae'n amlwg ei fod yntau yn cymryd yr un dileit mewn chwarae yn erbyn ei ddelwedd arferol ag y mae'r brodyr yn eu cael wrth greu'r cymeriadau ar ei gyfer.

    Yn fwy na dim, mae cymeriadau Burn After Reading yn rhai sy'n cynrychioli pobol sydd ymhell o fod yn effeithiol wrth eu gwaith, ac eto maent yn hapus i gael eu diffinio yn ôl eu proffesiwn oherwydd gwacter eu bywydau.

    Mae'n dwyn i gof y mantra "Nobody Knows Anything", a fathwyd gan y sgwennwr sgriptiau William Goldman, wrth ddatgelu nad oes na ffasiwn beth â fformiwla bendant o lwyddiant yn Hollywood, a bod na elfen o siawns wrth ryddhau pob un ffilm.

    Mae'r brodyr Coen yn sicr yn ymgorffori'r ethos yma, a hyd yn oed gyda'u hymdrechion lleiaf llwyddiannus (mewn termau ariannol o leiaf) mae ôl meddwl ac arbrofi.

    Fel gwyliwr, mae'n braf iawn gwybod bod na ambell i ffilm sy'n ganlyniad i ffatri gynhyrchiol o syniadau creadigol, sydd ddim yn ofni herio confensiynau, ac sydd yn trin ei chynulleidfa gyda pharch.


  • Cymraeg
    A Way of Life
    Big Nothing (2006)
    Cannes
    Cwcw (2008)
    Cymru Ddu - y gyfres deledu
    Cymru Fach (2008)
    Ffilmiau Cymru ddoe
    Ffilmiau Steddfod
    Gavin and Stacey
    Gwobr i ffilm ganpunt
    Gwyl Fflics 2007
    Gŵyl Cymru Ddu
    Gŵyl Ffilm Caerdydd 2006
    Hope Eternal
    Martha Jac a Sianco - y ffilm
    Mela
    Milltir sgwar arwyr ffilm
    Oed yr Addewid
    Pictiwrs yn y Pyb yn gafael
    Pobl ifainc yn mentro
    Powerless
    Powerless
    Shorts in Colour
    Siôn a Siân
    Sleep Furiously
    Snow Cake
    Spiderman Cymraeg
    The Edge of Love
    The Edge of Love
    Y Lleill
    Yr Ymwelydd
    Zan Boko
    £500,000 i animeiddio
    cyffro
    '1408' (2007)
    'Rush Hour 3' (2007)
    'We Own The Night' (2007)
    Die Hard 4.0 (2007)
    Déjà Vu (2006)
    30 Days of Night (2007)
    4: Rise of the Silver Surfer (2007)
    Aliens Vs Predator: Requiem (2008)
    Around the World in 80 Days
    Assault on Precinct 13
    Australia
    Batman Begins
    Beowulf
    Blood Diamond
    Casino Royale
    Casino Royale
    Casino Royale (2006)
    Casino Royale 2006
    Cellular
    Changeling (2008)
    Children of Men (2006)
    Derailed
    Eastern Promises
    Eastern Promises (2007)
    Fantastic Four
    Fracture (2007)
    Harry Potter and The Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Order of the Phoenix (2007)
    Harry Potter and the Prisoner of Azkaban
    History of Violence
    Indiana Jones and the Kingdom of the Crystal Skull (2008)
    Iron Man (2008)
    King Arthur
    King Kong - 2005
    Mission Impossible III (2006)
    National Treasure
    No Country for Old Men (2008)
    No Country for Old Men (2008)
    Ocean's 13
    Ocean's 13 (2007)
    Ocean's Twelve
    Pirates of the Caribbean - Dead Man's Chest (2006)
    Rambo (2008)
    Red Eye
    Sahara
    Saw II
    Serenity
    Severance (2006)
    Shooter (2007)
    Spider-Man 2
    Spider-Man 3 (2007)
    Star Wars III
    Stormbreaker (2006)
    Superman Returns (2006)
    The Bourne Ultimatum
    The Da Vinci Code (2006)
    The Dark Knight
    The Day After Tomorrow
    The Departed (2006)
    The Golden Compass (2007)
    The Golden Compass (2007)
    The Incredible Hulk (2008)
    The Incredibles
    The Interpreter
    The Kingdom (2007)
    The Legend of Zorro
    The Matador
    The Omen 2006
    Thunderbirds
    Transformers (2007)
    Van Helsing
    Walking Tall
    War (2007)
    White Noise
    comedi
    'Mr Woodcock' (2007)
    Fred Claus (2007)
    St Trinian's (2008)
    A Good Year (2006)
    Bee Movie (2007)
    Bewitched
    Borat:
    Bridget Jones - The Edge of Reason
    Charlie and the Chocolate Factory
    Choke (2008)
    Christmas with the Kranks
    Evan Almighty (2007)
    Evan Almighty(2007)
    Forgetting Sarah Marshall (2008)
    Four Christmases - 2008
    Good Luck Chuck (2007)
    Hairspray
    Herbie: Fully Loaded
    Hitch
    Hot Fuzz (2007)
    I Now Pronounce You Chuck And Larry (2007)
    Just Like Heaven (2005)
    Just My Luck (2006)
    Knocked Up (2007)
    Mean Girls
    Meet the Fockers
    Miss Congeniality 2 - Armed and fabulous
    Monster in Law
    Mr & Mrs Smith
    Mr Bean 2007
    Mr Magnoruim's Wonder Emporuim' (2007)
    Nacho Libre (2006)
    Night at the Museum (Rhagfyr 2006)
    PS I Love You (2008)
    Prime (2006)
    RV: Runaway Vacation (2006)
    Ratatouille
    Robots
    Run, Fat Boy, Run (2007)
    Scooby Doo 2 :
    Shark Tale
    Shrek 2
    Shrek 3
    Slither (2006)
    St Trinian's
    St Trinian's (2008)
    Superbad (2007)
    Talladego Nights: : The Ballad of Ricky Bobby (2006)
    The Devil Wears Prada
    The Dukes of Hazzard
    The Good Night (2008)
    The Hitchhiker's Guide to the Galaxy
    The Nanny Diaries (2007)
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie
    The Simpsons Movie (2007)
    The Simpsons Movie (2007)
    Wallace and Gromit - The Curse Of The Were-Rabbit
    Wedding Crashers
    Wedding Crashers
    Wedding Date
    Wild Hogs (2007)
    You, Me and Dupree (2006)
    drama
    Abraham's Point (2008)
    Alexander
    Alfie
    Alpha Dog (2007)
    Amazing Grace (2007)
    American Gangster (2007)
    Apocalypto (2007)
    Atonement (2007)
    August Rush
    Babel (2007)
    Basic Instinct 2 (2006)
    Bullet Boy
    Burn After Reading
    Charlie Wilson's War (2008)
    Charlie Wilson's War (2008)
    Che: Part One - 2008
    Collateral
    Crash
    Down in the Valley
    Dreamgirls (2007)
    Elizabeth: The Golden Age (2007)
    Fahrenheit 9/11
    Finding Neverland
    Five Children and It
    Gandhi My Father (2007)
    Good Bye Lenin (2003)
    Harsh Times (2006)
    Howl's Moving Castle
    Hunger (2008)
    I Am Legend (2007)
    I am Legend
    In Bruges (2008)
    In Good Company
    In Prison My Whole Life
    In the Valley of Elah (2008)
    Into the Wild
    Jarhead (2006)
    Jindabyne (2007)
    Kingdom of Heaven
    La Vie en Rose
    Ladies in Lavender
    Lassie (2005)
    Layer Cake
    Lemony Snicket's A Series of Unfortunate Events
    Lions For Lambs (2007)
    Lost in Translation
    Lust, Caution (2008)
    Lust, Caution (2008)
    Maria Full of Grace
    Million Dollar Baby
    Miss Potter (2007)
    Munich (2006)
    Oliver Twist
    Open Water
    PS I Love You (2008)
    Premonition (2007)
    Rendition
    Rescue Dawn (2007)
    Rocky Balboa (2007)
    Snowcake (2006)
    Spanglish
    Take the Lead (2006)
    Taliesin Jones
    The Assassination of Jesse James
    The Bourne Supremacy
    The Boy in the Striped Pyjamas (2008)
    The Chronicles Of Narnia (2005)
    The Constant Gardener
    The Duchess
    The Edge of Love (2008)
    The Exorcism of Emily Rose
    The Illusionist (2007)
    The Lake House
    The Lake House (2006)
    The Last King of Scotland (2007)
    The Libertine
    The Motorcycle Diaries
    The Only Clown in the Village
    The Painted Veil
    The Phantom of the Opera
    The Polar Express
    The Terminal
    The Village
    The Wicker Man (2006)
    United 93 (2006)
    V for Vendetta
    Vera Drake
    W (2008)
    War of the Worlds
    Zodiac
    erthyglau
    'Tad' y Phantom
    Academi Sgrîn Cymru
    Alex Rose
    Cymru Wyddelig Ford
    Der Untergang
    Ffilmio da Demi
    Gwobr i briodferch
    Gŵyl Ffilmiau Ryngwladol Dulyn
    Gŵyl ffilmiau myfyrwyr
    Harry Potter and the Order of the Phoenix
    Holi Matthew Rhys
    Hope Eternal (2008)
    Ioan Gruffudd
    Ioan Gruffudd
    John Roberts Williams - y dyn ffilmiau
    Miss Potter - y cysylltiad Cymreig
    Prinder ffilmiau Cymraeg
    Tystysgrifau ffilm
    Yn yr Oscars


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý