| |
Rescue Dawn (2007) Trais a phoen yn Fietnam
Y Sêr:
Christian Bale, Steve Zahn, Jeremy Davies, Galen Yuen
Cyfarwyddo:
Werner Herzog
Sgrifennu:
Werner Herzog
Hyd:
125 munud
Adolygiad Shaun Ablett
Mae'r ffilm hon yn sôn am y rhyfel yn Fietnam yn y Chwedegau ac yn ymwneud â digwyddiadau go iawn.
Mae'n canolbwyntio ar ddyn o'r Almaen o'r enw Dieter Dengler (Christian Bale) a ymunodd â lluoedd America yn beilot.
Ond yn fuan wedi iddo ymuno saethwyd ei awyren i lawr dros Laos a chaiff ei ddal gan Fietnam a'i roi gyda charcharorion eraill pryd mae'n sylweddoli bod nifer o filwyr Americanaidd sy'n garcharorion yn cael eu trin yn ofnadwy.
O ganlyniad mae'n paratoi cynlluniau iddo ef a'r gweddill ddianc ond dim ond ef sy'n llwyddiannus.
Dyma un o'r berfformiadau gorau erioed Christian Bale fel prif gymeriad gan lwyddo i bortreadu yn gorfforol ac yn emosiynol effaith y cam-drin.
Mae'r ffilm yn llwyddo hefyd i gyfleu pam yr oedd y Fietnamiaid yn fodlon achosi pob math o boen i dynnu gwybodaeth.
Mae'r ffilm yn portreadu hefyd greulondeb y rhyfel ei hun ac mae'n bwysig ein bod ni heddiw yn cael profiad o hynny drwy lygaid un cymeriad a'i stori ef.
Byddwn yn cymeradwyo'r ffilm hon pe na byddai ond i gael gweld sut ryfel oedd un Fietnam mewn gwirionedd ac i sicrhau na fydd yn cael ei anghofio.
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|
|
|