Cymru Fach (2008) X-Rated Glenys a Rhisiart!
Y sêr
Lowri Gwynne; Gareth Pierce, Sioned Wyn, Rhys ap Trefor, Nicola Beddoe, Aneirin Hughes, Catlin Richards, Steffan Rhodri, Vicky Pugh, Gwyn Vaughan.
Cynhyrchu
Jon Williams.
Sgrifennu
William Owen Roberts
Adolygiad Sioned A Williams
Diosg y Menyg Gwynion
Addasiad o ddrama lwyfan gan William Owen Roberts a berfformiwyd gan Sgriptcymru yn 2006 yw'r ffilm hon, sy bellach ar daith drwy Gymru wedi iddi gael ei phremiere yn Eisteddfod Caerdydd.
Y Brifwyl oedd y lle delfrydol i gyflwyno'r ffilm i'r genedl gan y tybiwn i mai'r union Gymry parchus a dylanwadol y mae'r ffilm yn eu dychanu a'u gwawdio oedd mwyafrif y gynulleidfa - gwleidyddion, selogion y cwangos, ysgolheigion, a chyfryngis.
Mae'r ffilm yn cyfosod y ddelfryd o Gymru fach, lân, gymdogol, y teitl a'r realiti gyfoes lle mae'r mwyafrif yn barod i gymryd mantais ar ei gilydd i ddringo (a sugno'r) 'polyn llithrig'.
Mae hefyd ar yr yn un pryd yn tanlinellu'r ffaith mai Cymru fach iawn yw'r Gymru Gymraeg o hyd - ein bod ni gyd yn nabod ein gilydd ac nad oes modd felly, fel y mae un o gymeriadau'r ffilm yn ei honni, cadw cyfrinach rhag lledu ymysg Cymry Cymraeg 'am fwy na 87 munud!'
Golygfeydd bachog Drwy gyfrwng golygfeydd byrion bachog yn null ffilm enwog Short Cuts Robert Altman mae'r ffilm yn plethu nifer o straeon byrion am berthynas dau gymeriad yn un clytwaith o naratif a'r hyn sy'n clymu'r cyfan ynghyd yw cadwyn o weithgaredd rywiol rhwng y cymeriadau.
Gwelwn, er enghraifft, gynhyrchydd teledu ifanc sy'n cysgu gydag aelod blaenllaw o Fwrdd yr Iaith er mwyn ei helpu i ennill comisiwn gan S4C.
Datgelir yn yr olygfa nesaf mai gwraig i academydd amlwg yw hi, sy wedi ei sugno i fyd o uchelgais personol ar draul egwyddorion moesol a gwleidyddol.
Ac yna, yn y darn sy'n dilyn , sy wedi ei leoli yn yr Eisteddfod ei hunan, dysgwn bod yr academydd yntau'n cysgu gyda myfyrwraig ifanc iddo a'i fod wedi sicrhau cadair yr Eisteddfod ryngolegol iddi, yn ogystal a'i gradd yn y Gymraeg!
Mae Cymru Fach yn teimlo ar brydiau fel Fersiwn X-Rated o Glenys a Rhisiart!
Ymlaen ac ymlaen felly yr awn fesul cam ar hyd un llwybr hir o drythyllwch nes cyrraedd y diwedd twt sy'n cau'r cylch - a'r rheithfarn ar gyflwr y genedl ar un olwg yn llawdrwm o ddamniol .
Cyffyrddiau ysbrydoledig Ond y mae yma hefyd gyffyrddiadau ysbrydoledig o gomedi dychanol o'r radd flaenaf.
Mae portread crafog Steffan Rhodri o'r canwr pop sy'n credu ei fod yn waredwr ei filltir sgwâr trwy ddefnyddio arian cyhoeddus i sefydlu prosiectau cymunedol, er ei fod yn defnyddio'r grantiau at ei bwrpasau anfoesol ei hunan, yn hyfryd o agos at yr asgwrn, ac mae rhai o'i linellau'n berlau.
Wrth gwyno bod ei fand yn hen ffasiwn am fod eisiau parhau i ganu yn y Gymraeg, mae'n dweud: " Nage protest yw pob gig, rhaid aeddfedu'n gerddorol - 'na pam do's dim ots 'da fi ganu'n Saesneg."
Ac wrth fynd a merch ifanc i'w fflat swanc, dywed heb eironi: " Paid a becso - so ti'n cael deja vu - 'Pedair Wal' - na le ti di gweld y lle ma o'r blaen."
Yn gyfarwydd Teips cyfarwydd o Gymry sy'n cael eu darlunio yn y ffilm, wedi eu llunio a'u cyflwyno'n drawiadol o effeithiol ac oherwydd hynny mae bron yn bosib dyfalu pwy yn union yw'r gwleidydd aruchel sy'n cael ei bortreadu gan Gwyn Vaughan , er enghraifft.
Mae hi mor braf cael gwylio ffilm Gymraeg sydd yn gyfoes ei dull a'i thestun.
Ni fydd y golygfeydd graffig o ryw at ddant pawb wrth gwrs, ac yn hyn o beth roedd yma duedd Caerdydd-aidd i greu sioc heb gyfrannu at y stori na'r cymeriadu.
Ond efallai bod hynny'n ffordd lwyddiannus o'n gorfodi i ddiosg y menyg gwynion 'na o'r diwedd.
Mae Sioned A Williams yn ohebydd celfyddydau Rhaglen Dewi Llwyd ar Â鶹Éç Radio Cymru bob bore Sul ac yn adolygu'n achlysurol yn Y Cymro hefyd.
Y daith Medi
17 Sefydliad y Glowyr Cwmaman
25 Pontardawe Arts Centre
29 & 30 Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Hydref
6 & 7 Sefydliad y Glowyr Coed Duon
8 Neuadd Ucheldre Caergybi
9 Oriel Ynys Mon Llangefni
13 Theatr Gwynedd Bangor
Cysylltiadau Perthnasol
Gordd mewn siop lestri - adolygiad o'r ddrama lwyfan
|
|