The Good Night (2008) Difyr a gwahanol
Y Sêr: Martin Freeman, Gwyneth Paltrow, Penelope Cruz, Simon Pegg, Danny Devito
Cyfarwyddo: Jake Paltrow
Sgrifennu: Jake Paltrow
Hyd: 114 Munud
Adolygiad Shaun Ablett
Ffilm yw hon am daith dyn sy'n gobeithio darganfod perffeithrwydd mewn bywyd.
Gary Shaller (Martin Freeman) yw'r prif gymeriad, dyn a flasodd enwogrwydd flynyddoedd yn ôl yn aelod o grŵp cerddorol o'r enw On The One.
Erbyn hynny nid yw Gary'n hapus yn ei berthynas â'i sboner, Dora (Gwyneth Paltrow), ac mae'n gweithio i'w ffrind a oedd hefyd yn y grŵp cerddorol gydag ef ac mae'r ddau yn gweithio yn y byd masnachol.
Cyn bo hir, mae Gary'n cael breuddwydion gloyw iawn am ferch o'r enw Anna (Penelope Cruz) ac mewn rhyw ffordd ryfedd iawn, mae Gary'n cwympo mewn â hi.
Er mwyn dysgu rhagor am freuddwydion mae Gary'n prynu llyfrau am freuddwydion unigryw ac yn ymgynghori â rhywun sy'n arbenigo yn y pwnc.
Dim ond wedyn y sylweddola bod Anna yn berson byw ac mae ei ffrind, Paul (Simon Pegg), yn trefnu i'r ddau ohonynt gwrdd.
Ond o gwrdd caiff ei siomi yn y ferch go iawn o gymharu a merch ei freuddwydion a phenderfyna ddychwelyd at ei gariad.
Wn i ddim beth i'w feddwl yn iawn o stori mor rhyfedd sy'n ddiddorol hefyd. Mae rhai golygfeydd doniol ac emosiynol iawn a'r cyfarwyddwr wedi llwyddo i'w cynnwys mewn ffordd wahanol iawn.
Hoffais Martin Freeman fel y prif gymeriad ers ei berfformiad ar y rhaglen deledu, The Office gyda Ricky Gervais. Hyfryd gweld cwmnïau o'r America yn cynnwys actorion talentog o Brydain am unwaith - rhywbeth nad yw'n digwydd yn aml iawn.
Actor arall doniol iawn yn y ffilm yma yw Simon Pegg sy'n chwarae rhan Paul ac, wrth gwrs, mae llawer o actorion Americanaidd enwog iawn yn y ffilm gan gynnwys Danny Devito, Gwyneth Paltrow a Penelope Cruz.
Perfformiad Simon Pegg oedd orau i fod yn onest gan ddod â hiwmor clyfar i bob golygfa.
Ewch i wylio'r ffilm hon os ydych yn hoffi ffilmiau diddorol gyda stori unigryw ac actorion arbennig.
Darparwyd yr erthygl hon fel rhan o gynllun Cyfrannu ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008
|
|