Nacho Libre (2006) Comedi Fecsicanaidd heb fawr o ddoniolwch
Nacho Libre (2006)
fgh . . .
Y sêr
Jack Black, Ferran Rañé, Hector Jimenez, Ana De La Reguera
Cyfarwyddo
Jared Hess
Sgrifennu
Jared Hess, Jerusha Hess, Mike White
Hyd
92 munud
Sut ffilm
Ffilm gomedi Fecsicanaidd 'i'r teulu' sy'n dibynnu bron yn llwyr ar boblogrwydd ac apêl Jack Black yn rhai cylchoedd - a hynny'n cael ei ystyried yn esgus digonol i hepgor unrhyw ymgais at lunio stori a ffurf go gall iddi.
Y stori
Er mwyn cael arian i brynu bwyd gwell i blant mewn cartref amddifad mae'r mynach, Ignacio, (Jack Black) yn gwisgo teits Superman, yn rhoi mwgwd am ei wyneb a throi'n reslar, Nacho, gan ymddangos mewn gornestau tag gyda lleidr stryd esgyrnog o'r enw Esqueleto (Hector Jimenez).
Hynny, er bod reslo yn bechod marwol yng ngolwg y mynachod Oaxacan eraill - ond i Nacho mae ei gariad at reslo a'i bryder am les yr amddifad yn bwysicach na hynny.
Mae Nacho hefyd dros ei ben a'i glustiau mewn cariad a'r lleien sydd newydd ymuno a'r mynachdy, y Chwaer Encarnacion (Ana de la Reguera) a'i gwên swil.
Y canlyniad Cyfle i Jack Black droi ei law at yr holl bethau gwych - yn ôl ei gefnogwyr - y mae'n gallu'u gwneud:
Gwisgo teits glas sy fod i wneud i bobl chwerthin.Baglu dros ei draed ei hun.Dawnsio.Canu - yn lled sentimental ar adegau.Siaaaaaraaad meeeewn acen ffiiig Fecsicanaidd.
Fel arall, dyw'r stori gyda'i hadlais o dloty Oliver Twist nag yma nac acw a'r cyfan oll braidd yn rhy wirion i fynnu sylw rhywun am hyd yn oed awr a hanner.
Ambell i farn Yn rhyfedd iawn, mae rhai yn canmol ac wedi hyd yn oed weld rhyw ddigrifwch mawr yn perthyn i'r ffilm.
Gwelodd y Guardian a ddylai wybod yn well rywbeth a alwodd yn "heliwm comedi pur" ar gael i'w anadlu yn y "ffilm ddoniol iawn hon".
Ond gwelwyd adolygydd arall yn ei disgrifio fel "gwrthun, hiliol" ac yn amddifad o ddoniolwch. Ef sy'n holi faint o weithiau mae disgwyl inni chwerthin am ben y ffaith fod Jack Black yn edrych yn ddoniol mewn teits.
Y syniad heb ei ddatblygu'n ddigonol, meddai'r Observer tra bo'r Telegraph yn cyfeirio at sgript sy'n rhydd o jôcs."
Talodd yr Independent deyrnged i Jack Black am achub ffilm a allai fod wedi methu hebddo.
Yn ôl gwefan Saesneg y Â鶹Éç ni all comedi fod fawr doniolach na Jack Black mewn leotard gan ragweld digonedd o docynnau yn cael eu prynu ar sail hynny yn unig. Ond mae'r adolygydd yn gorfod cydnabod mai ffilm wedi ei batsio wrth ei gilydd ycddi Nacho Libre er bod yna ddigon o bethau i'ch goglais ynddo.
.
Perfformiadau Mae Jack Black yn troi ei law at yr holl bethau gwych - yn ôl ei gefnogwyr - y mae'n gallu'u gwneud:
Gwisgo teits glas sy fod i wneud i bobl chwerthin.Baglu dros ei draed ei hun.Dawnsio.Canu - yn lled sentimental ar adegau.Siaaaaaraaad meeeewn acen ffiiig Fecsicanaidd.
Yn ei gysgod ef y mae'r cymeriadau eraill i gyd.
.
Darnau gorauY motobeic.Golygfa ramantus bwyta'r tost.Dod o hyd i ddefnyddiau ar gyfer creu gwisg reslo.Ymladd y corachod.
Rhai geiriau"Wyt ti ddim yn sylweddoli fod gen i ddolur rhydd ers y Pasg."Fy mam a'i rhoddodd hi imi - hi oedd ei machette lwcus.
Gwerth ei gweld? Go brin ei bod werth gwneud rhyw ymdrech fawr iawn.
|
Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
|
|
|
|
|