Mr Bean 2007 Hwyl i'r teulu'i gyd
Y sêr
Rowan Atkinson, Willem Dafoe, Emma De Caunes, Max Baldry, Karel Roden
Cyfarwyddo
Steve Bendelack
Sgrifennu
Robin Driscoll, Simon McBurney, Hamish McColl.
Hyd
89 munud
Adolygiad Lowri Evans
Beth gwell ar bnawn gwlyb yn ystod gwyliau'r Pasg na mynd i Theatr y Mwldan, Aberteifi, gyda bocs mawr o bopcorn a suddo i berfeddion un o'u seddau cyffyrddus ac ymlacio o flaen y sgrin fawr?
Yr arlwy ddydd Gwener ddiwethaf oedd ffilm diweddara'r athrylith Mr Bean ond petrus iawn oedd fy nghamau at y swyddfa docynnau o weld mai ond plant oedd yn y cyntedd ac eithrio ambell i fam neu dad blin a wyddai fod ganddynt bythefnos o hyn o'u blaenau.
Ar ôl gweld yr hysbysluniau am ffilmiau eraill a anelwyd at y plantos dros y Pasg, roeddwn yn sicr yn difaru fy enaid imi ddod i'r fath le.
Ni allaf ddweud fy mod yn hoff o chwerthin afreolus plant mewn sinema a'r orfodaeth sy'n gwawrio ar rai ohonynt i godi'n swnllyd i fynd i wagu'r holl 7 Up o'u boliau yn ystod rhan allweddol ym mhlot unrhyw ffilm!
Ffraethineb diwyro Buan iawn y'm siomwyd ar yr ochr orau ac erbyn i'r dilyniant agoriadol ddod i ben roeddwn yn difaru eu beirniadu'n rhy gyflym.
Mae'n siŵr mai ffraethineb diwyro'r cymeriad canolog, Mr Bean (Rowan Atkinson) oedd yn gyfrifol am hyn ac i'r rhai ohonoch na fu'n ddigon ffodus i ddal y cyfresi teledu na'r ffilm gyntaf a seiliwyd ar y cymeriad ffwdanus hwn, da chi, gwnewch ymdrech i'w ddal yn y ffilm hon.
Synnu a syfrdanu Mae Atkinson, yn ôl ei arfer, yn llwyddo i'n synnu a'n syfrdanu dro ar ôl tro gyda'i bortread hynod ddoniol.
Anodd yw disgrifio gwir atyniad y ffilm gan nad oes unrhyw blot dyrys nac adeiladwaith crefftus nac unrhyw bôs o fath yn y byd i'w ddatrys.
Yn hytrach, mae'r cwbl yn troi o amgylch y cymeriadu bywiog a'r gomedi slapstig.
Yn y ffilm dilynir taith Mr Bean i Cannes yn Ffrainc, wedi iddo ennill y gwyliau mewn raffl yn yr eglwys.
Fel y disgwylir, nid yw'r daith yn un heb ei ffwdan ac, fel arfer, daw Mr Bean ei hun drwy'r cyfan heb na chlais ar ei gorff na staen ar ei gymeriad.
Yn awr a hanner bleserus iawn, mae hon yn ffilm addas ar gyfer y teulu cyfan.
Ar ben hynny mae'n un y byddwch am ei phrynu pan ddaw allan ar DVD.
Anodd iawn blino ar ddiniweidrwydd a hiwmor Mr Bean, byddwch yn blentyn naw oed, yn fyfyrwraig neu'n rhiant!
Cyhoeddir yr adolygiad hwn fel rhan o gynllun cyfrannu i bapurau bro, sy'n parhau tan Ionawr 2008, ar y cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Am fwy o fanylion ac i wybod sut y gallwch ennill £30 am ysgrifennu - Cliciwch
Cliciwch i ddarllen adolygiadau eraill dan gynllun Antur Teifi
|
|