Good Luck Chuck (2007) Adolygiad gan Shaun Ablett
Y Sêr:
Dane Cook, Jessica Alba, Dan Fogler, Lonny Ross, Ellia English
Cyfarwyddo:
Mark Helfrich
Sgrifennu:
Josh Stolberg
Hyd:
99 munud
Pe byddwn yn gorfod cymharu'r ffilm hon gydag unrhyw ffilm ramantaidd arall rhai fel Run, Fat Boy, Run fyddai'n dod i'm meddwl.
I raddau, fersiwn Americanaidd o honno yw hi - ond nid mor ddoniol.
Mae'r ffilm yn dechrau gyda golwg yn ôl ar Chuck (Dane Cook) yn ddeg oed yn gwrthod rhoi cusan i ferch a'r ferch yn rhoi melltith arno y bydd pob menyw y bydd yn cysgu â hi yn y dyfodol yn priodi y dyn nesaf mae'n cwrdd ag ef.
Mae'r ffilm yn ailgychwyn gyda Chuck yn oedolyn llwyddiannus, yn brif ddeintydd cwmni mae'n ei redeg ac yn gweithio yn yr un adeilad a'i ffrind gorau, Stu (Dan Fogler).
Sylweddolwn erbyn hyn bod y felltith wedi cael effaith gan na all Chuck ddweud wrth unrhyw ferch ei fod yn ei charu.
Barn Stu, fodd bynnag, yw bod Chuck yn ddyn lwcus iawn yn gallu cysgu efo merched heb ofni'r canlyniadau.
Nid dyna farn Chuck sy'n crefu am berthynas go iawn gyda merch.
Dyna'i deimladau pan yw'n cwympo mewn cariad â Cam (Jessica Alba) ond pan yw'n gofyn iddi fynd allan am swper gydag ef nid yw Cam yn fodlon.
Ond, ar ôl nifer o broblemau a chamgymeriadau, mae'r ddau yn cwympo mewn i cariad a Chuck yn gofyn iddi ei briodi.
Yn sicr bydddwch yn teimlo'n hapus ar ôl gwylio'r ffilm hon - ond i mi, nid yw hynny'n ddigon a doeddwn i ddim yn blês iawn a hi.
Yn bennaf oherwydd bod cymaint o ffilmiau eraill tebyg iawn i'w gweld.
I ddynion, yr unig reswm da dros wylio'r ffilm syml ac amlwg hon yw Jessica Alba!
Darparwyd yr adolygiad hwn yn rhan o gynllun Cyfrannu ar y Cyd rhwng Â鶹Éç Cymru'r Byd ac Antur Teifi. Daeth y cynllun hwn i ben ar 31 Ionawr 2008.
|