Cyrhaeddom y cartref plant cyntaf ar nos Sul i groeso cynnes, ac roeddem ni'n drist i orfod gadael ar ôl y diwrnod. Fe lwython y cartref gydag anrhegion di-ri ar gyfer y plant a chymerwn ni'r amser i ddawnsio, joio a chwarae gemau gyda nhw. Roedd nifer o ddagrau wrth i ni adael y diwrnod canlynol, ond roedd hi'n dda i wybod hod mwy o gymorth yn mynd i gael ei ddarpari.
Roedd yr ail gartref yr un mor emosiynol i'w weld. Cawsom groeso arbennig o gynnes unwaith eto, ac roedd yn rhaid i nifer ohonom fynd i'm hystafelloedd i grio ar ôl derbyn anrhegion anghredadwy oddi wrth blant oedd yn cael dim.
Aethom i IKEA er mwyn prynu eitemau addas ar gyfer y cartref a dechreuom ar adnewyddu ystafell i bump o ferched. Erbyn i ni orffen yr ystafell, roedd pob un ohonom yn genfigennus o'r plant amddifad a fyddai'n cael yr ystafell.
Gwobr fwyaf yr wythnos oedd gweld eu hwynebau wrth iddynt weld yr ystafell orffenedig, ac wedi i'r bechgyn weld y Playstation, y teledu a'r stereo newydd! Dvna oedd ystyr hapusrwydd, a dyna oedd ein rheswm dros fynd i Wlad Pwyl. Rwy'n argyhoeddedig na fyddaf i byth yn anghofio'r profiad a gawsom yng Ngwlad Pwyl, na'r plant a chwifiodd hwyl fawr i ni mor frwdfrydig.
Bethan Rowe, Blwyddyn 13.
Ysgol Gyfun Bro Morgannwg
|