Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Owain Siôn Williams Cerdd dantiwr brwd o Ben Llyn
Tachwedd 2007
Owain Siôn Williams sy'n cael ei holi yn 'Pasport' y mis hwn.
O le wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Fe ges i fy ngeni yng Nghaerffili a byw yno am bum mlynedd a hanner cyn symud i Lwyndyrus ym Mhen Llyn, ardal enedigol fy rhieni.

Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Yn Grangetown.

Beth fuest ti'n ei wneud cyn symud yma?
Fe fum i ym Mhrifysgol Cymru Bangor yn astudio gradd yn y Gymraeg ac yna radd Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol yno. Yn sgil y radd Meistr enillais Fedal Lenyddiaeth Gŵyl yr Urdd yn 2001 (blwyddyn Clwy'r Traed a'r Genau) ac y cefais weld fy nofel "Bwli" mewn print am y tro cyntaf.

Treuliais gyfnod wedyn yn gyfieithydd rhan-amser i Barc Cenedlaethol Eryri ym Mhenrhyndeudraeth cyn penderfynu dilyn cwrs Ymarfer Dysgu TAR Uwchradd, eto ym Mangor.

Lle ti'n gweithio erbyn hyn?
Rwy'n athro Cymraeg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf ers chwe blynedd. Rwy'n trio fy ngorau i wneud i blant Caerdydd siarad yn yn fwy gogleddol yn ogystal â stwffio cerdd dant i lawr corn gyddfau'r disgyblion, yr athrawon a chyfoedion!

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Rwy'n aelod o adran denor Côr CF1, yr adran orau wrth gwrs (sydd byth yn gweiddi!), ac rwy'n Gadeirydd yr Aelwyd am eleni. Rwyf hefyd yn aelod o Gôr 'n wal, côr cymdeithasol ardal Grangetown a enillodd wobr y côr gwledig (!) yn yr Ŵyl Ban Geltaidd y Pasg diwethaf. Canu a cherddoriaeth yw fy mhrif ddiddordeb. Rwy'n aelod o Bwyllgor Gwaith Cymdeithas Cerdd Dant Cymru ac yn ysgrifennydd Pwyllgor Cerdd Dant Eisteddfod Caerdydd 2008. Rwy'n gosod cerdd dant ac yn hyfforddi unigolion a phartïon yn yr ysgol a'r aelwyd ar gyfer eisteddfodau yn ogystal â chystadlu fy hun. Rwy'n mwynhau cymdeithasu, dadlau, gwylio Lost (diolch i Andy Walpole am ei sky plus-io fo i fi), 24 a Heroes, chwarae'r piano, darllen a Facebook!

Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Rhaglenni teledu fel C'mon Midffild (am ryw reswm dydy'r hwntws `ma ddim yn ei ddallt o!), cyfres deledu Friends, Ibiza Ibiza. Cwmni ffrindiau fel fy nghyd-weithwraig Bethan Thomas sydd wastad yn dweud pethau doniol! Rhai o'r pethau mae'r plant yn yr ysgol yn eu dweud ar lafar ac yn eu gwaith ysgrifenedig.

Lle ydi'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Y Cornwall yn Grangetown yw'r dafarn leol ble mae Cymry'r ardal yn dod i gymdeithasu'n rheolaidd, Copa yn y dre, Terra Nova yn y Bae, Mochyn Du ar ôl ysgol ar nos Wener. Os am fwyd - Champers, Savastano's, Mimosa, Plymouth Arms neu'r Riverside Cantonese.

Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Dydw i ddim yn un sy'n mynd dramor ar wyliau. Gwyliau i mi yw cael mynd nôl adre i Ben Llyn i weld fy rhieni a fy nau frawd, Elis a Iorwerth. Rwy'n trio mynd mor aml ag sy'n bosib ac rwy'n gwybod fy mod i adref pan wela' i Gastell Cricieth. Trueni fod y ffordd mor wael o Gaerdydd i Lwyndyrus a'i bod yn cymryd cyhyd i deithio. Dwi hefyd yn mynd i'r Eisteddfod Genedlaethol am wythnos bob blwyddyn. Rhaid dweud fy mod i wedi cael cyfleoedd drwy'r ysgol i fynd i amrywiol lefydd gyda'r disgyblion - Paris, Brwsel, Ypres, Llangrannog, Glan Llyn, Nant Gwrtheyrn - ond gwaith ydy hynny, nid gwyliau!

Petaet yn cael y cyfle i wella neu newid rhywbeth yng Nghaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Cael gwared a bob gwylan sy'n codi paent y car efo'u baw

Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Hoffwn i feddwl y byddaf i wedi cael swydd ddysgu Cymraeg yn ôl adref o gwmpas Pen Llyn erbyn hynny, ond gyda'r hinsawdd byd addysg yno ar hyn o bryd dydw i ddim yn obeithiol iawn. Os na fydd hynny'n bosib, gobeithio y bydda i'n hapus o hyd yn dysgu Cymraeg, neu'n golygu neu baratoi deunyddiau adolygu ac addysgu ar gyfer athrawon. Ac yn dal i ganu a cherdd dantio!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý