Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Llion Pughe Pasport Llion Pughe
Tachwedd 2006
Entrepreneur o ganolbarth Cymru sy'n cael ei holi'r mis yma ym mhapur bro Y Dinesydd - daw Llion Dwyfor Pughe o ardal Machynlleth, ond bellach yn byw yn Grangetown.

O ble wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Cwestiwn da! Mi lanies i yn 'Sbyty Machynlleth ac o fewn dim mi ath y ffôn - dad di cal cynnig gwaith ar fferm Pwllpeiran ger Cwmystwyth - felly ar ôl pythefnos ym mhentre bach Darowen, ges i nghartio i ardal y Cardis i dyfu allan o'n napis. Pan o'n i'n naw oed mi ddychwelon ni yn deulu o bump i fyw ar fferm yng Nghemaes ger Machynlleth. Er bod gen i atgofion da iawn o ardal Cwmystwyth, dwi wastad yn teimlo mai bachgen o Fro Ddyfi ydw i.

Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Grangetown

Ers faint wyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
Blwyddyn a chwarter

Beth fuest ti'n ei wneud cyn [neu] ar ôl symud yma?
Es i o Ysgol Uwchradd Bro Ddyfi i neud gradd mewn Cymraeg a Marchnata ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth ac wedyn gradd feistr mewn Entrepreneuriaeth. Ges i dymor arall o gneifio wedyn, cyn mynd i weithio i Menter a Busnes yn Aberystwyth, a dyna lle fues i am dair blynedd yn helpu pobol ifanc i gychwyn busnesau. O ganlyniad, mi benderfynes i neud yr yn fath, felly mi gychwynnais i a phartner busnes gwmni bach - Lyfi Dyfi - yn gwerthu cardiau rhamantus a modern i'r farchnad Gymraeg ochr yn ochr â'n swydd bob dvdd. Tua'r run pryd mi sefydlais i gwmni cyfieithu rhan amser hefyd.

Wedyn, flwyddyn ddwytha, mi fanteisiais i ar y cyfle i symud ardal felly lawr â fi i swyddfa Menter a Busnes Caerdydd i chwilio am brofiadau newydd! Un o'r rhai mwyaf hyd yn hyn mae'n debyg oedd sefydlu trydydd cwmni efo ffrind a brodor o Gaerdvdd (sef Trystan Francis... fydda to ddim yn madde i fi taswn i ddim yn rhoi mensh iddo fo!!) yn buddsoddi mewn tai. Mi brynon ni'r cynta allan ym Mhortugal fis Rhagfyr dwytha rywbryd rhwng yr ail a'r degfed peint, a'r gobaith ydy buddsoddi mewn mwy o fewn y tri mis nesa.

Lle ti'n gweithio erbyn hyn?
Fel mae'n digwydd, dwi newydd dderbyn dyrchafiad i swydd Rheolwr o fewn cwmni Menter a Busnes! Mi fydd y rhan fwyaf o ngwaith i o hyn ymlaen felly yn ymwneud â chynorthwyo busnesau bach ar draws De Cymru i dyfu a datblygu cynnyrch / gwasanaethau newydd - sialens dwi'n edrych ymlaen ati'n fawr.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Yn ogystal i'r 'cymdeithasu' anochel sy'n digwydd ar y penwythnosau, dwi wedi ail afael yn y rygbi ers dod i lawr i Gaerdydd efo clwb y Ciacs sy'n gymysgedd o ffrindiau coleg a chriw brodorol y Bae - lot fawr o hwyl! Fel mae'n digwydd, ma'r clwb yn dathlu ei ben blwydd yn 60 ar y penwythnos felly os gwelwch chi griw swnllyd mewn tycs a dici-bôs ar hyd lle, rhedwch ffordd arall da chi!!

Yn ogystal â'r rygbi mae gennon ni dîm 5 bob ochor yn chware yng nghanolfan Gôl bob nos Iau, sef yr un noson ag ymarfer côr newydd y Côr'n'wall yn Grangetown - mae'n anodd 'i dal hi bob man!!

Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Lot o bethe... sefyllfaoedd neu sylwadau annisgwyl, Chris Moyles a'r criw, comedïwyr fel Peter Kay, Ricky Gevais, Rhod Gilbert a Tudur Owen. Dwi'n licio comedi 'embarassing' i bwynt hefyd ond weithie mae rhaglenni fel Extras yn mynd â fo i begwn sydd bron yn rhy anghyfforddus i'w wylio! Dwi hefyd yn licio chydig o dynnu coes a 'sarcasm' ond yr un peth sydd bron bob tro yn y nghal i i drwbwl ydy llefydd tawel lle de chi'n gwbod mai'r peth ola ddyle chi neud ydy chwerthin e.e. gwasanaethau bore yn yr ysgol erstalwm, eglwys / capel ayb.

Lle ydi'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Cornwall a Phillharmonic ar nos Iau, y Bae ar nos Wener a lle bynnag ma'r gwynt yn cario rhywun ar nos Sadwrn - Clwb, Philli, Les Croupiers, Zync... dibynnu lle sy'n dal ar agor fel arfer!

Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Yn amlwg, ma Portiwgal wedi hod yn ffefryn yn ddiweddar ond yr un mawr nesa fydd Las Vegas efo dwsin o fois Machynlleth ddechre Rhagfyr, ' i weld rowndiau terfynol y Rodeo a gwario ffortiwn ar y gamblo siŵr o fod... when in Vegas tel ddedodd y Sais wrth y Rhufeiniwr!?

Petaet yn cael y cyfle i wella rhywbeth yng Nghaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Stopio bwytai têc awê i bostio flyers yn ddyddiol trwy'r drws. Cael gwared o gamerâu cyflymder a ramps (dim byd i neud efo'r ffaith bo fi'n hwyr i bob man!!)

Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dwi'm yn arfer meddwl lot pellach na nhrwyn - well gen i fyw i'r funud ar y cyfan. Nai'm hyd yn oed dechre sôn am byncie astrys fel setlo lawr, deg o blant a pethe fel ny... yr unig beth dwi'n rhagweld ydy y bydda i di fod yn byw dramor am flwyddyn neu ddwy, wedi dod yn ôl i Gymru ac yn gweithio'n llawn amser i'r cwmni eiddo ers pum mlynedd. Y prif ddyletswyddau fydd hedfan allan i amryw o wledydd i gadw llygad ar y buddsoddiadau (unrhyw esgus!)


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý