Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Rhan o gôr Ardwyn gyda'u harweinydd Helena Braithwaite, a Janice Ball. Hwyl Helena!
Mawrth 2005
Ar ôl 35 mlynedd fel cyfarwyddwr cerdd Cantorion Ardwyn Caerdydd, mae Helena Braithwaite MBE am roi'i baton o'r neilltu.

Helena yw un o brif arweinyddion corawl Cymru, ac mae hi wedi meithrin enw da o gyflwyno cerddoriaeth newydd Gymreig i'r neuaddau cyngerdd yn ogystal â dod o hyd i glasuron o'r ddwy neu dair canrif ddiwethaf. Mae'r côr wedi ennill bri am ganu gwych ac mae Helena yn adnabyddus am ei dehongliadau cywir o bob math o arddulliau cerddorol.

Dan ei harweiniad hi, mae Cantorion Ardwyn Caerdydd wedi canu mewn nifer o neuaddau cyngerdd gorau'r byd gydag unawdwyr gwych. Ddechrau Rhagfyr fe rannodd y côr lwyfan gyda Syr Willard White yng Nghanolfan y Mileniwm ac ym mis Medi fe gannon nhw gyda'r sielydd Rafael Wallfisch yng Ngŵyl Bro Morgannwg.

Bydd dilyn ôl traed Helena yn dipyn o gamp, gan fod cymaint o lwyddiant y côr wedi dod yn sgîl ei dawn gerddorol ragorol a'i hymroddiad llwyr i ddatblygu'r hyn sy'n cael ei alw'n 'Sain yr Ardwyn' - cyfuniad o leisiau ifainc ac aeddfed. Bu nifer o'r cantorion iau yn gyn-aelodau Côr Ieuenctid De Morgannwg y bu Helena'n arwain yn ei hanterth, fel Trefnydd Cerdd yr hen sir.

Mae dyddiadur Cantorion Ardwyn Caerdydd eisoes yn prysur lenwi ar gyfer y ddwy flynedd nesaf. Ym mis Mawrth bydd y côr yn cynnal cyngerdd i ddathlu'i deugain mlwyddiant, a byddwn yn teithio i Brâg dros y Pasg. Yn ogystal â Proms Cymru a digwyddiadau eraill, mae cyngerdd ffarwelio Helena ar y gweill ym mis Gorffennaf.

Felly, mae'r côr wedi dechrau chwilio am gyfarwyddwr cerdd newydd gydag egni, nwyd a'r carisma i arwain y grŵp ymroddgar hwn o gerddorion. Mae'r côr yn disgwyl denu arweinydd corawl gyda phrofiad, ond nid oes unrhyw rwystrau eraill. Dim ond 30 mlwydd oed oedd Helena pan gymerodd hi'r awenau.

Os oes gennych chi ddiddordeb yn y swydd, cysylltwch â'r côr drwy'r wefan, www.cardiffardwynsingers.co.uk neu ffoniwch reolwr y côr ar 029 2070 3663.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý