Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Meleri Wyn Pasport: Meleri Wyn
Ebrill 2008
Meleri Wyn sy'n wreiddiol o ardal Aberystwyth ond sy'n byw yng Nghaerdydd bellach sydd yn y ffrâm ym mhapur bro Y Dinesydd y mis hwn.
O ble rwyt ti'n dod yn wreiddiol?
Llandre ger Aberystwyth.

Ym mha ran o Gaerdydd rwyt ti'n byw?
Yn y Rhath.

Ers faint rwyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
Ers tua 13 mlynedd.

Beth fuest ti'n ei wneud cyn/ar ôl symud yma?
Symudais i lawr i Gaerdydd yn 1995 i astudio Cymraeg a Ffrangeg yn y Brifysgol. Fe wnes i fwynhau fy amser yn y coleg mas draw - y bywyd cymdeithasol a'r cwrs! Ces i'r cyfle i fyw yn Llydaw am naw mis yn ystod y drydedd flwyddyn, yn dysgu Saesneg mewn ysgol uwchradd yn Saint Brieuc. Dim ond deuddeg awr yr wythnos oedd yn rhaid i ni weithio felly roedden ni'n defnyddio ein hamser sbâr i deithio o amgylch Llydaw a gogledd Ffrainc. Ces i swydd gyda Trosol yn syth ar ôl gadael y coleg yn gweithio fel is-deitlydd yn y Â鶹Éç a bues i'n gweithio yno am tua dwy flynedd a hanner.

Ble rwyt ti'n gweithio erbyn hyn?
Dw i bellach yn Gydlynydd Is-deitlo yn S4C ac wedi bod yma ers tua chwe mlynedd. Dw i'n edrych ar ôl y gwasanaeth is deitlo, arwyddo ar gyfer y byddar a'r trwm eu clyw, a'r gwasanaeth sain ddisgrifio ar gyfer y dall a'r rhannol ddall. Dw i'n mwynhau'r swydd ac mae yna griw da yn gweithio yn y swyddfa gyda fi.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dw i'n mwynhau treulio amser gyda fy ffrindiau a fy nghariad, yn y dafarn, mynd allan am fwyd neu mynd i'r sinema. Mae gen i ddiddordeb mewn cerddoriaeth a dw i'n joio mynd i gigs a chyngherddau. Fe fues i'n Llundain ddechrau mis Ionawr i weld y Spice Girls. Fe wnes i fwynhau'r noson mas draw gan i'r gyngerdd ddod a lot o atgofion da yn ôl i mi! Fydda i ddim yn gwylio'r teledu cymaint a hynny ond fydda i byth yn colli 'Torchwood' na 'Rownd a Rownd'. Dw i'n aelod o'r gampfa hefyd ond dw i ddim yn mynd mor aml ag y dyliwn i!

Beth sy'n gwneud i ti chwerthin?
Mae PC Leslie Wynne bob amser yn gwneud i mi chwerthin. Roeddwn i'n rhan o'r gynulleidfa pan oedd ei gyfres newydd yn cael ei ffilmio yn y Senedd yn ddiweddar. Mae nifer o fy ffrindiau yn gallu gwneud i mi chwerthin hefyd a dw i'n meddwl bod Russell Brand ac Alan Carr yn ddoniol iawn.

Ble ydy'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Fe wnaethon ni ddechrau Clwb Cyri yn y swyddfa tua blwyddyn a hanner yn ôl ac ry'n ni'n mynd allan am fwyd unwaith y mis. Mae'n gyfle grêt i ymweld â gwahanol fwytai yng Nghaerdydd yn enwedig gan nad ydyn ni'n mynd am gyri bob tro! Cafon ni fwyd ffantastig yn Juboraj mis diwethaf.

Pan dw i'n mynd allan i yfed, ry'n ni fel arfer yn aros yn lleol, naill ai yn mynd i'r George neu Milgi yn y Rhath neu'r Mochyn Du ym Mhontcanna. Mae Milgi yn gwneud y coctêls gorau yn y ddinas felly dw i'n mynd yno pan dw i'n teimlo fel sbwylio'n hunan! Ry'n ni'n mynd i'r Bae yn weddol aml hefyd - mae 'na nifer o fariau neis yno.

Ble ti'n hoffi mynd am wyliau?
Dw i wrth fy modd yn mynd ar wyliau ac yn mynd i ffwrdd mor aml â phosibl. Dw i'n mwynhau pob math o wyliau - ymweld â dinasoedd, gwyliau yn yr haul a gwyliau sgio. Aethon ni o gwmpas Sbaen tua blwyddyn a hanner yn ôl gan orffen yn Tarifa reit ar waelod y wlad. Dyna fy hoff le yn y byd -'traethau a bariau gwych ac mae'r lle yn llawn hippies a kite surfers! Y gwyliau diwethaf i mi arno oedd wythnos yn yr haul yn Mecsico. Hoffwn i fynd i Cuba neu Brasil cyn hir.

Petaet yn cael y cyfle i wella neu newid rhywbeth yng Nghaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Hoffwn i petai Cyngor Caerdydd yn stopio anfon eu lorïau casglu sbwriel o gwmpas am hanner awr wedi wyth y bore pan mae pawb arall yn trio cyrraedd y gwaith ar amser! Mae'n fy ngwylltio i pan dw i'n cael fy nal tu ôl i lori sbwriel sy'n stopio tu fas i bob tŷ pan dw i'n rhedeg yn hwyr!

Ble rwyt ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dw i ddim yn gallu gweld fy hun yn symud o Gaerdydd o fewn y deng mlynedd nesaf. Gobeithio y bydd gen i deulu erbyn hynny ac y bydda i'n dal i joio bywyd yng Nghaerdydd.

  • Mwy o Gaerdydd

  • 0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý