Ar Nos Wener, Hydref y 3ydd, cynhaliwyd cyfarfod agoriadol tymor 2008-2009 yng Nghapel y Crwys. Pwysigrwydd y noson oedd arwisgo Llywydd y Flwyddyn, sef Gwyn Briwnant Jones; ac yn ôl arferiad y gymdeithas, ef oedd yn gyfrifol am arlwy'r noson.
Gwyddom i gyd am ddiddordeb Gwyn mewn trenau a rheilffyrdd, a gwych o beth oedd gwrando ar arbenigwr ac awdur sawl cyfrol ar ei destun yn siarad â'r fath frwdfrydedd heintus. Roedd ambell un yn bresennol a rannai ag ef yr un hoffter o'r hen drenau stêm a'r un ymlyniad wrthynt.
Buan y sylweddolodd y gweddill ohonom nad pwnc o ddiddordeb i'r arbenigwyr yn unig oedd gan ein siaradwr, pan atgoffodd ni o bwysigrwydd y trên yn ein blynyddoedd cynnar. Ar y trên stêm y bu llawer ohonom yn teithio bob dydd i'r ysgol ac wedyn i'r coleg, ac roedd stesion fach y wlad yn fan cyfarwydd inni, a chofiem am y dynion a weithai yno a'r gerddi y byddent yn eu trin â balchter. A phwy a allai anghofio Afon Wen, Dyfi Junction neu Crewe?
Dyma feddwl hefyd am y rhan bwysig a chwaraeodd y trên mewn llenyddiaeth, ac fel y dibynnai'r lliaws o weinidogion a darpar weinidogion ar y trên i'w cludo ddydd Sadwrn i'w cyhoeddiadau a nôl adref ar fore Llun. Newidiodd dyfodiad y trên bob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Gallai'r torfeydd, gan gynnwys y corau mawr, am y tro cyntaf gyrchu i'r Eisteddfod Genedlaethol a'i gwneud yn wyl wir genedlaethol.
Nodwedd bwysig o gyfarfodydd y Cymrodorion yw'r drafodaeth wedi'r ddarlith, a gwerthfawr fu'r cyfle i gofio am gyfraniad James Williams Roberts, tad Tegwen Evans a thad yng nghyfraith John Albert, a chwaraeodd ran flaenllaw yn yr N.U.R., sef undeb y gweithwyr rheilffyrdd. Mr. Roberts fu'r cyntaf i draddodi anerchiad yn Gymraeg yng Nghynhadledd Genedlaethol y Blaid Lafur. 1955 oedd y flwyddyn, ac ar y diwedd cododd y cynrychiolwyr o Gymru ar eu traed a chanu 'Hen Wlad fy Nhadau. Achlysur pwysig a chofiadwy oedd hwnnw.
Cofiai'r Parchedig Huw Ethall am y 'divine ten-to-nine', fel y'i gelwid, a adawai Wood Street am gymoedd y de ddwyrain i fynd â'r pregethwr i'w alwad - a'r un mor bwysig, y trên ar nos Sul i ddod ag ef yn ôl adref.
Daeth y noson i ben gyda chwpanaid o de ar ôl i Berwyn Jones, yntau hefyd yn un o garedigion mawr y trenau stêm, fynegi ein diolch i'r siaradwr.
Edrychwn ymlaen at flwyddyn lwyddiannus iawn dan ein Llywydd newydd.
Rhiannon Gregory