Mae'r Gymraeg i'w chlywed ym mhencadlys y tîm yng Ngherddi Soffia eleni fel rhan o ymrwymiad parhaol Morgannwg i hybu a datblygu'r defnydd o'r Gymraeg.
O ddiwrnod agoriadol y tymor criced newydd (Gwener Ebrill 16eg) mae pob cyhoeddiad swyddogol a wneir yn ystod gêmau cartref Morgannwg yn ddwyieithog o hyn ymlaen. I ddathlu'r ffaith, roedd Rhodri Williams, Cadeirydd Bwrdd yr laith Cymraeg yn gyfrifol am leisio'r cyhoeddiadau ei hunan - yn fyw - ar ddiwrnod cyntaf y tymor. Yn siarad cyn iddo gyhoeddi am y tro cyntaf, dywedodd Rhodri Williams: "Dwi yn hynod o falch bod Morgannwg wedi cymryd yr awenau fan hyn ac yn cyflwyno'r Gymraeg i holl agweddau'r clwb o arwyddion dwyieithog newydd i lenyddiaeth Gymraeg a hefyd y cyhoeddiadau dyddiol. "Mae dyfodol yr iaith yn dibynnu i raddau helaeth ar y defnydd a wneir ohoni mewn amgylchiadau anffurfiol a sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae Morgannwg wedi cydnabod hynny ac wedi ymateb i'r alwad drwy gyflwyno'r cyhoeddiadau yn ddwyieithog. "Dwi wedi bod yn cefnogi criced gydol fy mywyd a dwi'n edrych ymlaen yn fawr at agor y batio yn y fenter ddiweddara 'ma. F'unig obaith yw na fydd y glaw'n rhoi terfyn ar y chwarae: fe allai hynny roi terfyn ar fy ngeiriau innau hefyd! "Morgannwg yw cartref criced yng Nghymru. Rwy'n hynod o falch bod yr iaith Gymraeg wedi ymgartrefu yma bellach. Dwi'n mawr obeithio y bydd chwaraeon eraill yn dilyn esiampl dda Morgannwg." Pwysleisiodd Paul Russell, Cadeirydd Clwb Criced Morgannwg, bwysigrwydd y Gymraeg i Griced Morgannwg: "Mae Criced Morgannwg yn falch o fedru hyrwyddo'r Gymraeg a'i chyflwyno mewn dull cymdeithasol i holl gefnogwyr Morgannwg. Mae cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng ngweithgareddau Morgannwg yn rhan annatod o'r moderneiddio sydd ar waith yma."
|