Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Yr Eglwys Norwyaidd Y Bae Seisnig
Tachwedd 2003
Y Bae. Ardal sydd bellach mor enwog fel nad oes angen crybwyll ei enw llawn. Dyma ganolbwynt pob datblygiad o bwys yng Nghaerdydd a Chymru bellach, fel cartref llywodraeth y wlad a phalmant aur yr 21ain ganrif. Dyma lle mae'r pres a'r poseurs i gyd yn llifo.

Mae sawl un wedi cymharu'r datblygiadau hyn â'r hyn ddigwyddodd ym mhrifddinas Catalunya dros ddeng mlynedd yn ôl. Bryd hynny, chwalwyd hen ardaloedd di-raen a thlawd y dociau i godi marina newydd llawn fflatiau moethus a chaffes swanc Port Olimpic, fel rhan o Gemau Olympaidd Barcelona 1992. Bellach, mae Barca yn denu fflyd o ymwelwyr i un o ddinasoedd mwyaf ffasiynol y byd. Hanes digon tebyg sydd i Gaerdydd hefyd. Daeth y teirw dur i chwalu'r hen Tiger Bay, a throwyd y glannau lleidiog yn llyn dwr croyw newydd. Erbyn heddiw, gwin y café bars nid glo sy'n ben yng nghysgod adeilad y Pierhead.

Trueni, felly, nad yw haul Môr y Canoldir yn tywynnu dros y Bae rownd y rîl. Bechod mai rhodfa o Toys R Us, drysfa a ffyrdd a chylchfannau Sgwâr Bute, a fflatiau bocs sgidia Lloyd George Avenue yw 'Ramblas' Caerdydd!

Siom hefyd nad yw'r Gymraeg hithau'n rhan mor amlwg a hynny a fwrlwm y Bae ar ei newydd wedd. Digon teg - fe welwch chi arwyddion dwyieithog i'ch tywys chi i Cei'r Forforwyn (a finna'n meddwl mai Copenhagen oedd cartref honno!) ac i'r Eglwys Norwyaidd ac ati. Craffwch chi dan yr wyneb, fodd bynnag, ac mae pethau'n dra gwahanol.

Century Wharf, Ocean's Reach, Sovereign Quay a Lacuna yw enwau'r fflatiau a'r pentai chwerthinllyd o ddrud sy'n codi fel madarch ar hyd y lle, a'r iaith fain sy'n bennaf ar arwyddion siopau, bariau a bwytai newydd y lanfa. Piciwch i Salt neu Terra Nova am bryd a pheint, ac fe welwch mai Saesneg yw'r bwydlenni a'r arwyddion (heblaw am y Gymraeg arferol ar ddrysau tai bach). Fuaswn i heb synnu gymaint os mai bragwyr o Loegr oedd y perchnogion, ond cwmni lleol Brains SA...?

Hyn er gwaetha'r broliant ar wefan y cwmni mai "Bragwr Cenedlaethol o Gymru" ydyw. All rhywun ddim peidio â theimlo fod Brains wedi colli cyfle euraidd i roi stamp dwyieithog ar eu busnesau newydd - a hynny mewn ardal sy'n frith a Gymry Cymraeg y Cynulliad gerllaw - heb sôn am ddangos yr iaith ar waith i ymwelwyr o bedwar ban.

Mae cwmni cynhenid arall, Cadwaladers, hefyd yn gibddall i'r Gymraeg. Lle mae bwydlenni ac arwyddion dwyieithog y caffi hufen ia hwn o'r gogledd? Lle mae eu synnwyr busnes o ddefnyddio'r iaith fel arf marchnata? Lle mae cyngor ac anogaeth Bwrdd yr Iaith yng nghanol hyn i gyd?

Efallai - dim ond efallai - y gwellith pethau pan fydd un o brosiectau mwyaf uchelgeisiol yr ardal yn agor ei drysau am y tro cyntaf yn Nhachwedd 2004. Gyda'r gromen enfawr o bren, gwydr a llechi, mae Canolfan y Mileniwm yn sicr o ddenu'r llygaid a'r lluoedd. Yn anffodus, dyw'r arwyddion cyntaf ddim yn addawol iawn. Michael Crawford, un o sêr sioeau West End Llundain, fydd un o enwau mawr y noson agoriadol. Teg edrych tua Lloegr mae canolfan ddiwydiannol newydd Cymru, felly.

Dim ond gobeithio y bydd presenoldeb yr Urdd fel un a breswylwyr y ganolfan o fudd mawr i Gymreigio'r gromen a'r bae ynghyd a'r ffaith mai dyma gartref Eisteddfod yr Urdd yn 2005, a phob 4 blynedd wedi hynny.

Amser a ddengys...

Ysgrifennwyd yr erthygl hon ar gyfer papur bro Y Dinesydd ym mis Tachwedd 2003. Nid oedd enw awdur ar waelod yr erthygl.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý