Meddai Matthew, "Mae gan yr Wyddfa le arbennig yn fy nghalon ac mae angen lIe arbennig ar ei chalon hi. "Dyna pam dwi'n cefnogi'r adeilad newydd ar gopa'r Wyddfa a byddwn yn annog pobl Cymru yn fawr i gyfrannu at yr ApêI. "Ni fydd y prosiect yn cael mynd yn ei flaen oni fyddwn ni'n codi'r £2 filiwn sy'n angenrheidiol erbyn mis Mehefin a byddai hynny'n drueni mawr. Mae'n hawdd iawn gwneud cyfraniad, naill ai drwy fynd ar-lein ar coparwyddfa.co.uk neu drwy ffonio Llinell yr Apel ar 0800 915 8695." Ar hyn o bryd, mae Matthew wrthi'n ffilmio The Decameron yn Rhufain a Thwsgani, lIe mae'n chwarae rhan Cownt Djerzinski, ochr yn ochr â Tim Roth, Hayden Christensen a Mischa Barton. Disgwylir i'r ffilm, sy'n cael ei chyfarwyddo gan Dino De Laurentis, sef enillydd tair Oscar, ac sy'n seiliedig ar gyfres o hanesion o nofelau o'r drydedd ganrif ar ddeg, gael ei rhyddhau yn 2006. Bydd yr actor ifanc yn dychwelyd i'r DU yn ddiweddarach eleni i ddechrau ffilmio ei ffilm nesaf, sef Love and Other Disasters, gyda Brittany Murphy yn Llundain.
|