Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Lowri Davies yn cyflwyno'r plat i Huw Llywelyn Davies, Cadeirydd y Pwyllgor Gwaith. Rhoi Caerdydd ar blât
Chwefror 2008
Nid ar chwarae bach mae dylunio plât yr Eisteddfod - mae'r gofrodd yn sefydliad yn ei hun erbyn hyn.

"Jyst gwneud e" yw'r gyfrinach, meddai Lowri Davies, a wahoddwyd i greu Plât Caerdydd 2008. Ond mae'r artist cerameg o Aberystwyth yn mynnu bod ei hymdrech i ddathlu ymweliad y Brifwyl â'r brifddinas yn eitha "traddodiadol". Y temtasiwn, meddai oedd gorchuddio'r platiau Wedgewood â thirluniau o Gaerdydd. Ond yn y pendraw, dewisodd saith prif adeilad sy'n cyfleu rhwysg ac urddas y ddinas.

Er i Lowri ddewis darlunio adeiladau cyhoeddus a diwylliannol y ddinas - o'r Senedd a Chanolfan y Mileniwm, i'r Castell a Neuadd y Sir yn slei bach, mae hi wedi cynnwys llun o gelf gyhoeddus - Blue Flash a Powerbox, greodd yr artist John Gingell, ar yr ls-orsaf Drydan yn y Bae.

Y platCoch, fodd bynnag yw prif liw'r plât. "Roeddwn i eisiau rhywbeth oedd bach yn wahanol ac eisiau defnyddio un lliw," meddai. "Er mae coch yn galetach i'w danio nag un lliw arall, ond fe ddaeth yn y pendraw."

Ers sefydlu gweithdy yn stiwdios Fireworks yn 2003, mae ei gyrfa wedi mynd o nerth i nerth. Mae hi eisoes wedi cynrychioli Cymru yn arddangosfa fawr SOFA, Chicago ac mae taith ei sioe solo gyntaf newydd ddod i ben. Erbyn hyn, mae Lowri yn rhannu ei hamser rhwng Caerdydd a Stoke-on-Trent. Yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Ddinbych 2001 dyfarnwyd yr Ysgoloriaeth Artist Ifanc i Lowri ac mae hi'n defnyddio'r arian er mwyn dilyn cwrs MA mewn Crochenwaith ym Mhrifysgol Staffordshire.

Mae Plât Caerdydd 2008 ar werth am £30 yr un, gyda chynhyrchiad o 300 wedi'u rhifo'n unigol.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý