Roedd y grŵp yn dod o Ysgol Gyfun yr
Eglwys Newydd ac o Ysgol Hywel,Llandaf. Y bwriad oedd cyflawni gwaith
gwirfoddol yn yr hosbis i blant sydd wedi
eu heffeithio gan y ddamwain ymbelydrol
yn Chernobyl.
Mae'r Rotari yn cefnogi'r gwaith yn y
gwersyll haf. Y prif ddyletswyddau oedd
peintio, garddwriaeth, tacluso ac edrych ar
ôl y plant. Lleolir y gwersyll
mewn ardal arbennig o hardd yng
nghanol cefn gwlad Belarws.
Roedd y gweithwyr Belarwsiaidd
yn groesawgar iawn, yn cynnig
tatws, ciwcymbr a mêl ffres hyfryd
o'r fferm drws nesaf yn ddyddiol.
Ar y ffordd nôl i'r maes awyr yn
Minsk cafwyd cyfle i weld y
ddinas ac i aros yn yr hosbis
arbennig sydd wedi gwneud
cymaint i helpu'r dioddefwyr dros
y blynyddoedd ers y trychineb.
Mewn un rhan o'r adeilad, a
adnabyddir fel 'Ystafell yr Angylion', roedd y muriau yn llawn lluniau
o blant sydd wedi eu huno wrth aros yn yr
hosbis.
Roedd pob un o'r myfyrwyr yn falch eu
bod wedi cael y fraint o helpu'r bobl yn
Belarws a gobeithio y bydd mwy o
unigolion yn cael y cyfle i ymgymryd â'r
sialens a chefnogi'r achos gwerthfawr.
Jessica Davies, Ysgol Hywel
|