Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Aelodau'r ysgol Llwyddiant Ysgol Uwchradd Caerdydd
Gorffennaf 2004
Y gamp lawn i Nerys Roberts


Daeth myfyrwyr o Ysgol Uwchradd Caerdydd yn gyntaf, yn ail ac yn drydydd yng nghystadleuaeth medal y dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd eleni. Patrick Bidder oedd ar y brig gyda Beth Smith yn ail a Daniel O'Grady yn drydydd.

Yn ôl y beirniaid roedd gwaith buddugol Patrick, Y Ffidlwr, yn dangos "gafael cadarn ar iaith ein gwlad a'i lle yn nyfodol personol y cystadleuydd. Dyma waith ysgrifenedig a sgwrsio rnwya cyflawn ar draws ystod o ffurfiau yn y gystadleuaeth. Mae ganddo iaith naturiol, bywiog a llawn hyder".

Patrick ydi prif fachgen Ysgol Uwchradd Caerdydd eleni ac mae wedi derbyn cynnig amodol i Goleg Sant loan Caergrawnt i astudio Athroniaeth. Mae'n aelod o Gerddorfa Genedlaethol Ieuenctid Cymru. Er mwyn gwella ei Gymraeg mae'n ymarfer siarad efo disgyblion o Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.

Bu hon yn gystadleuaeth arbennig o ffrwythlon i Ysgol Uwchradd Caerdydd ers rhai blynyddoedd bellach. Mae llwyddiant eleni yn binacl ar record rhagorol Ysgol Uwchradd Caerdydd ac yn arbennig gwaith ymroddgar ac arweiniad diflino Pennaeth Adran y Gymraeg, Mrs Nerys Roberts. Dros y blynyddoedd diwetha mae myfyrwyr Nerys wedi sicrhau tri cyntaf, chwech ail a dau drydydd yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Tipyn o gamp. Llongyfarchiadau i Nerys a'r myfyrwyr.

Dymuna Patrick ddiolch i'w athrawes, am ei hanogaeth a'i chefnogaeth bob amser i wneud yn siŵr ei fod yn parhau a'i addysg yn y Gymraeg.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý