Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Côr n' Wal Buddugoliaeth Côr
Mai 2007
Ar 14 o Ebrill aeth deunaw o aelodau Côr 'n Wal i gystadlu yn yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Letterkenny. Co. Donegal.

Daeth y côr yn fuddugol yn y gystadleuaeth SATB gan guro côr Ger y Lli o Aberystwyth a dau gôr nodedig arall o'r Alban. Roedd hon yn fuddugoliaeth hynod i'r côr gan mai dyma'r tro cyntaf iddynt ganu ar lwyfan cyhoeddus a'r tro cyntaf iddynt gymryd rhan mewn unrhyw gystadleuaeth.

Sefydlwyd y côr rhyw flwyddyn yn ôl yn ardal Grangetown er mwyn rhoi cyfle i Gymry Cymraeg yr ardal ddod i adnabod ei gilydd yn well. Mae'r côr wedi'i enwi ar ôl hoff dafarn yr aelodau - y Cornwall - lle maent yn mynd i gael peint neu ddau ar ôl y gwaith sychedig o ymarfer.

Yn anffodus, nid oedd modd aros i glywed y dyfarniad gan fod rhaid dychwelyd i Belfast i hedfan yn ôl i Gaerdydd. Derbyniwyd neges destun yn llongyfarch Côr 'n Wal am ennill ar y ffordd adre - ond nid oedd yr aelodau yn fodlon credu nes derbyn galwad gan un o drefnwyr yr Ŵyl. Bu dathlu mawr ym Melffast ar y nos Sadwrn a chanu mawr tan oriau mân y bore.

Bu'r côr hefyd yn canu yn noson Gymreig yr Ŵyl ar y nos Wener - hefyd yn perfformio roedd y Moniars, Côr Ger y Lli a Gwenan Gibbard ymysg eraill.

Hoffai'r côr ddiolch i dafarn y Cornwall am noddi eu crysau, i'r arweinyddes - Catrin (Ffostrasol) Evans - am ei gwaith caled yn hyfforddi'r côr ac i Heledd Daniel am drefnu'r daith. Os ydych am fwy o wybodaeth ewch i wefan myspace.com/cornwal neu os oes diddordeb gyda chi i ymuno yn yr hwyl, e-bostiwch cornwall@hotmail.co.uk.

Mae'r côr yn cwrdd bob nos Iau o 6.30 tan 7.30 yn Eglwys y Bedyddwyr ar North Clive Street yn Grangetown. Croeso mawr i unrhyw un o bob oed a dyw profiad cerddorol blaenorol ddim yn hanfodol.

  • Mwy o Gaerdydd
  • Llwyddiant Côr o Aber yn yr Å´yl Ban Geltaidd

  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý