Tra bo grwpiau ifanc yn cael eu cyhuddo o ruthro i gyhoeddi albwm cyn eu bod nhw'n barod, mae un criw o hen stejars newydd gymryd y cam 40 mlynedd ar ôl ffurfio'r band. Daeth y Tebot Piws at ei gilydd gyntaf yng Nghaerdydd nôl ym 1968 gan gyfareddu eu cynulleidfaoedd gyda'u cerddoriaeth pop-gwerin ysgafn.
Dros y pedair blynedd ganlynol fe ryddhawyd nifer o ddisgiau feinyl EP gyda phedair cân arnynt fel oedd y drefn ym myd cyhoeddi cerddoriaeth Gymraeg ar y pryd ond Twll Du Ifan Saer ydy'r albwm cyflawn cyntaf.
Ymddangos y criw ddwy waith yn ystod yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd fis Awst mewn cyfres o ddigwyddiadau oedd yn cael eu cyflwyno gan Mici PIwm yn yr enwog Glwb Trydan ym Mhontcanna.
Yn cadw cwmni iddynt yn y gyntaf o ddwy noson Trydan-Acwstig ar nos Fercher, Awst 6ed oedd Heather Jones, Tecwyn Ifan a'r ddeuawd boblogaidd gyfoes Brigyn.
Y noson ganlynol roedd Delwyn Siôn, Linda Griffiths a Gwyneth Glyn yn ymuno yn yr hwyl. Ac mewn noson Sbarcs Trydan ar Nos Sadwrn, Awst 9ed, roedd Bryn Fôn a'i Fand a Gai Toms yn dod â gweithgareddau'r wythnos i ben. Dywedodd Alun 'Sbardun' Huws bod y syniad o lansio albwm o ganeuon newydd sbon i ddathlu eu 40ed pen-blwydd wedi egino yng Ngŵyl Maldwyn yn Llanerfyl y llynedd.
"Fesul dipyn mi aeth yr aelodau ati i sgwennu a chyfansoddi dros fisoedd y gaeaf ac mae 'na ddwsin o ganeuon newydd ar Twll Du Ifan Saer," meddai. Cafodd yr albwm ei recordio yn Stiwio Bryn Derwen ym Methesda a'i gynhyrchu gan y canwr a'r cyfansoddwr poblogaidd Bryn Fôn a'i lansio ar ei label LabelAbel.
"Rydan ni am ddiolch yn ein ffordd ein hunain i'r holl bobl hen ac ifanc sydd wedi prynu ein recordiau a danfon ceisiadau at y radio dros y blynyddoedd, drwy roi casgliad o ganeuon newydd sbon iddyn nhw. Gobeithio bydd y rhan fwya ohonyn nhw'n plesio."
|