Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Prosiect cyfeillio Eglwysi
Chwefror 2005
Ers 2003 mae Eglwys y Tabernacl, yn yr Ais yng Nghaerdydd wedi gefeillio gydag Eglwys Sefika (2,200 o aelodau) yn Maseru, prif ddinas Lesotho, yn Ne'r Affrig.
Yn ystod 2003-04, gwelwyd brwdfrydedd mawr a gwir awydd ymhlith aelodau'r Tabernacl i gynorthwyo'r Eglwys yno mewn modd ymarferol. Un agwedd argyfyngus ar fywyd yn Lesotho yw'r niferoedd cynyddol sy'n marw o HIV/Aids.

Penderfynwyd felly, i gynorthwyo'r plant hynny yn Eglwys Sefika a amddifadwyd oherwydd y clefyd dychrynllyd hwn sy'n sgubo'r wlad, a chodwyd arian sylweddol tuag at brosiect tair blynedd i'w cynorthwyo.

Yna, ym mis Tachwedd 2004, ail ymwelodd Non a Gwenallt Rees o'r Tabernacl, ag Eglwys Sefika er mwyn sefydlu'r Prosiect. Clywyd am waith arbennig Grŵp Cynnal Gwirfoddol a ffurfiwyd ym Mawrth 2002 yn Eglwys Sefika a oedd yn cynorthwyo 61 o blant a amddifadwyd oherwydd HIV / Aids a theuluoedd difreintiedig mewn un ardal yn Maseru.

Mae'r grŵp yn cynnal eilun trwy weithgareddau creu incwm, sef gwneud ac yna gwerthu dillad, esgidiau ac ati er mwyn talu ffioedd ysgol rhai o'r plant, a rhoi bwyd, dillad a chymorth ymarferol gwahanol i eraill o dan ei ofal.

Ymwelwyd â rhai o'r teuluoedd hyn yn eu cartrefi ac roedd y profiad o weld mam-gu yn magu pump o blant bach oherwydd marwolaeth eu rhieni, ac yn dibynnu ar garedigrwydd eraill am fwyd a dillad, yn un dirdynnol i ddweud y lleiaf.

Yn dilyn hyn, cynhaliwyd trafodaethau gyda'r grŵp oedd yn goruchwylio'r gwaith yn Eglwys Sefika. Er mwyn sicrhau bod Prosiect Tabernacl wedi'i sefydlu ar dir cadarn, penderfynodd aelodau o'r grŵp hwn wneud eu hasesiad manwl eu hun o waith y Grŵp Cynnal trwy ymweld â'r aelodau wrth eu gwaith. Yna, lluniwyd Dogfen Brosiect fanwl a oedd yn nodi:
cefndir y grŵp;
pam mae angen nawdd ariannol arno;
beth y mae am gyflawni;
amcanion y prosiect;
dulliau o gadarnhau i'r amcanion gael eu cyflawni;
costau;
cynllun gwaith a dyddiadau anfon adroddiadau yn ôl i Gymru.

Gwnaed trefniadau gofalus gan gynrychiolwyr o'r Tabernacl a swyddogion Eglwys Sefika parthed trosglwyddo'r arian i gyfrif banc y Grŵp Cynnal. Amcanion Prosiect Tabernacl/ Eglwys Sefika yw helpu talu ffïoedd ysgol rhai o'r plant a amddifadwyd, ac i gynorthwyo'r Grŵp Cynnal i brynu defnyddiau ac i ddal ati â'i gweithgareddau creu incwm i gynnal y 61 plentyn mewn ffyrdd ymarferol eraill.

Yn ddi-os, mae'r sefyllfa yn Lesotho oherwydd HIV/Aids yn enbydus, ac yn ôl pob golwg, yn gwaethygu. Amcangyfrifir bod tua 31% o oedolion yn Lesotho yn marw oherwydd y clefyd hwn, ond bod hyn yn codi i 51% ymhlith merched rhwng 15 a 24 oed. Hyd fywyd i ferch a enir yno heddiw yw 32 blynedd, a 38 i fachgen!

Diferyn bach yn y môr mawr yw'r prosiect hwn, ond mae pob diferyn yn bwysig!


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý