Ganrif a hanner yn ô1, ym 1852, bu farw yma yng Nghaerdydd un o gymwynaswyr mawr Cymru, sef Ieuan Gwynedd, wedi oes fer ond arwrol.Mae ar bob teulu a chenedl angen mytholeg wrth lunio'i delwedd ohoni ei hunan, a chawn hanes cynnar Ieuan Gwynedd yn fytholegol ei naws. Fe'i ganed ym 1820 yn un o chwech o blant i Evan a Catherine Jones ym Mryntynoriaid ger Dolgellau, cartref tlawd, crefyddol, ond mewn bro gyfoethog ei diwylliant.
Mae'r fam Gymreig aberthol yn rhan o wead ein hymwybyddiaeth genedlaethol ni, ac roedd dylanwad Catherine ar ei mab yn dyngedfennol yn ei hanes. A hithau'n ferch ifanc yn gweini yn y cylch, cerddodd i'r Bala a phrynu beibl Thomas Charles.
Rhoddodd orchudd coch arno, ac o'r "Beibl Coch", fel y'i gelwid gan y teulu, y dysgodd Catherine i'w mab ddarllen, er mai deuddeng niwrnod o addysg a gafodd hithau. Ysbeidiol iawn hefyd fu addysg ei mab oherwydd ei iechyd gwael.
Pan oedd yn 21 oed cafodd ei dderbyn gan Athrofa Aberhonddu. Yna, ac yntau'n 25 oed, fe'i sefydlwyd yn weinidog ar gapel Saron, Tredegar, gyda rhwng 600 a 700 o aelodau. Saith mlynedd wedyn, ac yntau ond yn 32 oed, roedd Ieuan Gwynedd yn marw yma yng Nghaerdydd.
Ond roedd yr hyn a wnaeth yn y saith mlynedd hynny yn wir orchestol.
Bedd Ieuan Gwynedd
Os ewch i fynwent hen gapel yr Annibynwyr yn y Groeswen, ger Caerffili welwch fedd Ieuan Gwynedd nesaf at fedd Caledfryn. Yn ôl yr hanes, dilynwyd ei arch gan bum mil o alarwyr, a ffyrdd troellog cefn gwlad yn ddu gan y dyrfa fawr.
Heddiw, ganrif a hanner wedi ei farwolaeth, mae'n ddyledus arnom ei goffau fel newyddiadurwr, ymgyrchydd a gwladgarwr, a gyfrannodd gymaint at newid meddylfryd Cymru, ac yn arbennig fel un a wyrdrodd ddelwedd merched Cymru.
Yn ôl ym 1845, rhaid meddwl bod bywyd yn felys i Ieuan Gwynedd. Priododd a ganwyd plentyn, ac roedd yntau ynghanol bwrlwm rhyfeddol afieithus bywyd Cymraeg gogledd Gwent, ynghyd â rhai fel Ieuan Gwyllt, Thomas Stephens, Carnhuanawc, yr Arglwyddes Charlotte Guest a'r anghymarol Arglwyddes Llanofer ac Eisteddfodau'r Fenni.
Ond ym 1847 newidiodd ei fyd, a dyma ddechrau gofidiau mawr: bu farw ei fam, ei wraig a'i blentyn, ac yn y flwyddyn dyngedfennol honno cyhoeddwyd adroddiad y Llyfrau Gleision.
Pan glywodd am y Comisiwn, cynigodd roi tystiolaeth, ond fe'i gwrthodwyd. R. J. Derfel yn ddiweddarach a fathodd yr enw "Brad y Llyfrau Gleision" fel teitl i'w bryddest, gyda'r adlais o Frad y Cyllyll Hirion; ac mae'r enw yn cyfleu tanbeidrwydd ymateb y Gymru Ymneilltuol i enllib yr adroddiad.
Er gwaethaf ei drasiedïau personol a chyflwr bregus ei iechyd, bwriodd Ieuan Gwynedd ati i arwain yr ymateb i'r adroddiad.
Fel Dafydd gynt, heriodd rym Goleiath yr Ymerodraeth Brydeinig, ac o fewn blwyddyn cyhoeddodd "A Vindication of the Educational and Moral Condition of Wales", a'r flwyddyn ganlynol, "Facts, Figures and Statements in Illustration of the Dissent and Morality of Wales: an Appeal to the English People".
Defnyddiodd ystadegau'r Cofrestrydd Cyffredinol ei hun i ddisodli honiadau ffug y Llyfrau Gleision, gan droi tystiolaeth hwnnw yn ei erbyn ei hun! Tipyn o gamp, yn wir.
Erbyn hyn roedd Ieuan Gwynedd, oherwydd ei waeledd, wedi gorfod rhoi'r gorau i'r weinidogaeth. Daeth yn aelod yng nghapel Ebeneser, Caerdydd, a byw mewn to ty yn East Terrace, yr union fan lle mae maes parcio Rapports heddiw.
Bu'n olygydd "The Principality" am gyfnod a chomisiynodd gyfres o gartwnau gwych gan Hugh Hughes yn dilorni'r Llyfrau Gleision. Ond roedd yn ormod o Radical ac Ymneilltuwr a Chymro i'r perchennog, ac ymddiswyddodd. Aeth y perchennog ymlaen, maen debyg,i sefydlu'r "Western Mail".
Un o gyhuddiadau mwyaf annheg a chreulon y Llyfrau Gleision oedd eu hymosodiad ar ferched Cymru, eu haniweirdeb a'u bryntni. Unwaith eto, dyma Ieuan Gwynedd yn mynd ati i'w hamddiffyn ac i ddechrau ymgyrch i wella'u byd.
Casglodd Ieuan y ffeithiau gan adeiladu ei ddadl mewn Saesneg coeth, deifiol ei ergyd. Yng ngeiriau'r Parchedig H. M. Hughes, gweinidog Capel Ebeneser, Caerdydd, yn nechrau'r ugeinfed ganrif, "Ni orffwysodd hyd nes cyrraedd yr Arglwydd John Russell ei hun, y Prif Weinidog ar y pryd, a'r diwedd fu dymchwel a darnio adroddiad y Comisiwn mor llwyr fel na feiddiodd na Chyngor na Senedd seilio dim arno."
Cyhoeddi'r cylchgrawn cyntaf i ferched
Ym 1850 cyhoeddodd rifyn cyntaf "Y Gymraes", y cylchgrawn cyntaf i ferched yn Gymraeg. Dywedodd mai ei resymau dros gyhoeddi'r cylchgrawn, oedd i hybu addysg i ferched a chreu ynddynt yr awydd i ddarllen ac i ysgrifennu ac i gyhoeddi eu gwaith: "meithrin ysbryd cenedlaethol yn eu plith a'u cael i ymhyfrydu yn eu hiaith". Ac wrth gwrs anogi purdeb moesol a dirwest.
Bu dylanwad "Y Gymraes" yn bellgyrhaeddol. Erbyn y 1880au roedd mwy o ferched ym Mhrifysgol Cymru nag mewn unrhyw brifysgol yn Lloegr, a chwaraeodd merched ran allweddol ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gydol yr ugeinfed ganrif.
Tafliad carreg o'r man lle safai'r ty lle bu'n byw a lle bu farw, y mae Churchill Way - prifddinas Cymru yn rhoi teyrnged i un o feibion enwocaf Lloegr, ond yn methu gosod dim i gofio Ieuan Gwynedd a ymdrechodd mor galed i ddyrchafu ei genedl ei hun.