Camp aruthrol yw cyrraedd y rownd derfynol heb sôn am gipio'r wobr o £4,000. Hi yw'r ieuengaf erioed i ennill yr ysgoloriaeth a hi hefyd oedd yr ieuengaf i gystadlu eleni. Cynhaliwyd y gystadleuaeth eleni yn y Galeri yng Nghaernarfon, nos Wener yr 16 o Fedi, ac fe'i darlledwyd hefyd ar S4C y nos Sul canlynol. Cafodd nifer ohonom gyfle i gael cipolwg ar y dosbarthiadau meistr a gynhaliwyd gan arbenigwyr yn y gwahanol feysydd wedi i wyth o gystadleuwyr yr Urdd gyrraedd y rhestr fer, wrth i S4C eu darlledu yn ystod yr wythnos flaenorol. Lowri oedd yr unig ddawnswraig yn y gystadleuaeth ac roedd hi wedi ei synnu pan glywodd ei bod hi wedi ennill. Dywedodd i'r profiad fod yn gwbl ffantastig a chymaint o fraint oedd hi i rannu llwyfan â chantorion ac actorion mor dalentog. Cafodd y pleser o gwrdd a'r beirniaid oedd yn arbenigwyr yn eu meysydd ar y noson, oedd yn ei hannog i gamu'n hyderus i'r dyfodol. Mynegodd Shân Phillips fod proffesiynoldeb a thalent Lowri'n nodedig o ystyried ei hoedran. Pinacl arall i'r noson oedd derbyn galwad ffôn yn ei llongyfarch gan ei mam oedd ar ymweliad â Tsieina ar y pryd. Bu Lowri'n gyn ddisgybl yn Ysgol Gynradd Bryn Onnen yng Ngwent cyn symud i Ysgol Gynradd Pen y Garth. Mae ar hyn o bryd yn astudio Drama, Saesneg a Sbaeneg yn Ysgol Gyfun Plasmawr. Bu'n dawnsio ers yn 3 oed ac yn clocsio ers yn 8 oed yn y Meggitt Theatre School ym Mhenarth a Rhiwbeina. Huw Williams sydd wedi ei dysgu i glocsio ac mae'n aelod o ddawnswyr Nantgarw. Hi sy'n cyfarwyddo ei dawnsfeydd ei hun, sy'n gyfuniad o ddawnsio traddodiadol Gymreig a dawnsio creadigol. Mae Lowri'n ddiolchgar iawn i Daniel Evans am ei gyngor gwych yn y dosbarthiadau meistr ac mae'n gobeithio y caiff gyfle i gydweithio gyda Daniel eto yn y dyfodol. Wrth ofyn i Lowri sut y bydd yn defnyddio'r arian dywedodd y bydd yr arian yn hynod o werthfawr ar gyfer ffïoedd, clyweliadau mewn prifysgolion a cholegau perfformio a gwersi arbenigol. Rydym yn dymuno pob llwyddiant iddi eleni gyda'i hastudiaethau ac fel dawnswraig.
|