Roedd plant Ysgol Sant Curig y Barri yn ffodus o gael y cyfle i gwrdd ag un o nofwyr amlycaf Prydain. Daeth David Davies sydd yn wreiddiol o'r dref i siarad am y profiad gwych o gystadlu yng ngemau Olympaidd Beijing. Daeth â'r fedal arian a enillodd am nofio 10,000 metr i ddangos i holl ddisgyblion a staff yr ysgol. Neges David os am lwyddo mewn unrhyw faes yw ymdrechu'n galed a gwneud eich gorau. Daeth anrhydedd unigryw i'w ran ar 9 Medi yng Ngwesty'r Mount Sorrell, y Barri, pan gyflwynwyd rhyddfraint y dre iddo. Fe yw'r person cyntaf i dderbyn yr anrhydedd ers 1956 pan gyflwynwyd yr un anrhydedd i'r aelod seneddol Dorothy Rees. Ymddengys mai David yw'r ifanca, yn 23 oed, i dderbyn rhyddfraint unrhyw dre. Mae David Davies wedi cael medal aur am ennill y ras nofio ar hyd Llyn Windermere. Roedd dros 2,000 o nofwyr yn y ras milltir o hyd a chyflawnodd David y gamp mewn 17 munud 2 eiliad.
|