Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Pafiliwn Newyddion o Swyddfa'r Eisteddfod
Mai 2006
Gydag ychydig dros 2 flynedd i fynd mae'r trefniadau ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008 yn cychwyn codi stêm.
Eisoes mae Pwyllgor Llywio wedi sefydlu dan gadeiryddiaeth Michael Jones, ac mae'r gwaith o drefnu amryw o agweddau'r Å´yl wedi cychwyn.

Nid yw lleoliad y Maes wedi ei gadarnhau eto ond mae Swyddogion yr Eisteddfod mewn trafodaethau gyda Cyngor y ddinas ac yn trafod nifer o opsiynau gyda'r bwriad o leoli'r Maes mor agos â phosib i ganol y ddinas.

Mae'r Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn yn denu 170,000 o ymwelwyr, a dros 6,500 o gystadleuwyr yn flynyddol. Amcangyfrifir bydd Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch yn costio dros £2.9 filiwn i'w llwyfannu. Darperir canran fawr o'r gost yma gan y llywodraeth leol, nawdd, ffioedd darlledu ayb ond gofynnir hefyd i drigolion yr ardal gyfrannu hyd at £300,000. I'r perwyl yma mae'n fwriad ffurfio Pwyllgorau apêl ar draws dalgylch yr Eisteddfod yn y dyfodol agos.

Yn ôl Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod:
"Ar y cychwyn gall hyn edrych fel ffigwr amhosib gan fod codi arian yn medru hod yn dasg anodd a diddiolch. Fodd bynnag wrth i'r gwaith fynd yn ei flaen mae'r arian yn cynyddu'n gyson a'r gwaith casglu yn dod yn brofiad hwylus yn hytrach na'n fwrn.

Eisoes mae cynllun cyfamodi Eisteddfod Caerdydd a'r Cylch wedi llwyddo i godi £15,000 ac mae nifer o ddigwyddiadau ar y gweill gan gynnwys cinio ac ocsiwn mawreddog yn y Gyfnewidfa Lo yn Mis Hydref."

Er mwyn sefydlu pwyllgorau apêl lleol ar draws y dalgylch, aed ati i rannu'r ddinas a'r ardaloedd cyfagos. Clystyrwyd nifer o ardaloedd gyda'i gilydd a rhoi targed a fyddai yn un cyraeddadwy yn hytrach nag un fyddai yn gur pen. I'r perwyl hwnnw aed ati i drefnu nifer o gyfarfodydd fel a ganlyn ac mae croeso i unrhyw- un fynychu gan fawr obeithio y bydd nifer dda ym mhob un:

Rhestr Pwyllgorau Apêl y ddinas
Pwyllgor Apêl Rhiwbeina a Llanisien - Nos Lun, Mai 22ain am 7.30 o'r gloch yn Festri Capel Bethany, Heol Llanishen Fach.
Pwyllgor Apêl Cathays, Y Rhath, Adamsdown a Sblott - Nos Lun, Mai 22ain am 7 o'r gloch yn Capel y Crwys, Heol Richmond, Y Rhath.
Pwyllgor Apêl Llandâf a'r Tyllgoed - Nos Fawrth, Mai 23ain am 7 o'r gloch yn Neuadd yr Eglwys, Llandaf (Lleolir y Neuadd drw nesa' i Jazzy Jungles yn Maes Parcio Llandaf.)
Pwyllgor Apêl Radyr, Treforgan, a Parc Radyr - Nos Fawrth, Mai 23ain am 7 o'r gloch yn Caffi Ffa, 8A Ffordd yr Orsaf, Radyr.
Pwyllgor Apêl Grangetown, Glanyrafon a Tre Bute - Nos Iau, Mai 25ain am 7.30 o'r gloch yn 'I'afarn, (Gwesty'r Riverside), Stryd Despenser, Glanyrafon.
Pwyllgor Apêl Llanrhymni, Rymni, Trowbridge, Pentwyn, Pontprennau a Llaneirwg - Nos Lun Mehefin 5ed am 7 o'r gloch yng Nghanolfan Cymunedol Pontprennau, Heol Pontprennau.
Pwyllgor Apêl Treganna, Parc Fictoria a Pontcanna - Nos Fercher, Mehefin 7fed am 7 o'r gloch yn Nhafarn y Duke of Clarence, Heol Clive, Treganna.
Pwyllgor Apêl Llysfaen, 'Thornhill, Draethen a Rudri - Nos Iau, Mehefin 8ed am 7 o'r gloch yn Neuadd Goffa Llysfaen, Heol y Delvn, Llysfaen.
Pwyllgor Apêl Eglwys Newydd a Gogledd Llandaf - Nos Iau, Mehefin 8ed am 7 o'r gloch yn Ystafell 9, Eglwys Ararat, Yr Eglwys Newydd.
Pwyllgor Apêl Gabalfa, Mynydd Bychan a Llwynfedw (Birchgrove) - Nos Fawrth Mehefin 13eg am 7 o'r gloch yng Nghanolfan Cymunedol Maes y Coed Road, Gerddi Jubilee, Y Mynydd Bychan.
Pwyllgor Apêl Cyncoed, Penylan a Llanedern - Nos Fercher, Mehefin 28ain am 7 o'r gloch yn Ysgol Uwchradd Caerdydd, (Cardiff High), Heol Llandennis, Cyncoed.

Mehefin 14eg - Cyfarfod cyhoeddus yn Ysgol Bro Morgannwg Y Barri am 7 o'r gloch i drafod y posibilrwydd o drigolion Y Fro yn ymuno gyda threfniadau Eisteddfod Genedlaethol Caerdydd a'r Cylch 2008.

Mae hefyd yn fwriad i drefnu Pwyllgorau Apïl yn ardaloedd Pentyrch, Creigiau, Gwaelod y Garth ac Ystym Tâf; Sain Ffagan, Llanbedr Y Fro, Y Drope, Caerau a Threlai - manylion pellach yn rhifyn nesaf y Dinesydd.

Os oes diddordeb gyda chi mewn cynorthwyo drwy ymuno â rhai o'r Pwyllgorau uchod yna cysylltwch â Sioned neu Rhiannon yn swyddfa'r Eisteddfod drwy ffonio 02920 763 777 neu e-bostio sioned@eisteddfod.org.uk.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý