Owain yw pumed arweinydd y gerddorfa a sefydlwyd yn 1945, a'r Cymro cyntaf i'w harwain. Bydd y repertoire ar gyfer cwrs a thaith gyngherddaur gerddorfa - a fydd yn dechrau yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod ac yn dod i ben yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd - yn y cynnwys Symffoni Rhif 1 Mahler, A Village Romeo and Juliet Delius, Preliwd i Die Meistersinger von Nurnberg Wagner ynghyd â darn newydd gan Gareth Wood, cyn-aelod o'r gerddorfa. Bydd yr unawdydd gwadd, Gwyn Hughes Jones yn ymuno â'r gerddorfa ar gyfer cyngerdd yr Eisteddfod Genedlaethol. Blaenwr newydd y gerddorfa ywr fiolinydd ('ar meddyg dan hyfforddiant!) Jonathan Shapey (21), un o'r tri brawd o Gaerdydd a fydd yn dychwelyd ar gyfer cwrs 2003. lestyn (19) y ffliwtydd a Selyf (17) yntau'n fiolinydd yw'r ddau arall. Rhaid llongyfarch Cerddorfa Ieuenctid Caerdydd a'r Fro ar gyfrannu 36 o aelodau'r gerddorfa genedlaethol eleni - 5, gan gynnwys Selyf yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf.
|