Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Dr Rhodri Gruffudd Pasport Rhodri Gruffudd
Mehefin 2006
Dyma golofn misol ym mhapur bro Y Dinesydd sy'n holi Cymry Cymraeg sy wedi symud i'r brifddinas dros y blynyddoedd diwethaf.
Dr Rhodri Gruffudd sy'n cael ei holi yn rhifyn Mehefin 2006.

O le wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Aberystwyth

Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Pontprennau

Ers faint wyt ti'n byw yng Nghaerdydd?
1995

Beth fuest ti'n ei wneud ar ôl symud yma?
Symudais i Gaerdydd yn 1995 er mwyn astudio Meddygaeth yn y Brifysgol. Ar ôl graddio yn 2000 treuliais ddwy flynedd yn gweithio yn y canolbarth cyn prynu tŷ yn ardal Pontprennau yn 2002. Fe gwrddais â fy ngwraig Ai Lean - sy'n dod yn wreiddiol o ynys Penang, Malaysia - tra'n gweithio yn Llanelli ac yna mi wnaethon ni briodi yn Aberystwyth ym Mehefin 2005. Rydym yn disgwyl ein plentyn cyntaf ym mis Medi felly dwi'n gwerthfawrogi cwsg yn fawr ar hyn o bryd!

Lle ti'n gweithio erbyn hyn?
Dwi'n gweithio fel meddyg yn ardal Caerdydd erbyn hyn. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cefais gyfle i weithio yn Llanelli, Caerfyrddin, Abertawe a Chasnewydd - digon o amrywiaeth!

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dwi'n treuilio'r rhan fwyaf o fy amser hamdden yn gwneud amryw o chwaraeon. Yn ogystal, rydym yn mwynhau bwyta allan, edrych ar ffilmiau a gwneud DIY adre. Os bydd rhywun yn gofyn yr un cwestiwn ar ôl mis Medi, mae'n siŵr y bydd newid clvtiau yn uchel ar y rhestr.

Be sy'n gwneud i ti gochi?
Gormod o amser yn yr haul.

Lle ydi'r mannau gorau i fynd am fwyd yng Nghaerdydd?
Unrhyw le sy'n gwerthu plat mawr o fwyd cartref.

Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Aberystwyth

Petaet yn cael miliwn o bunnoedd i'w wario ar Gaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Gyda miliwn o bunnoedd hoffwn adeiladu canolfan chwaraeon anferth lle gallwn chwarae pob math o chwaraeon heb boenu am y tywydd. Yn ogystal â bod yn gymdeithasol, mae'n ffordd arbennig o gadw'n heini.

Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Mewn deng mlynedd dwi'n gobeithio bod yn byw mewn tÅ· mawr cyfforddus gyda fy ngwraig a'm plant yn gweithio mewn swydd llawn mwynhad gyda digon o amser rhydd i'w dreulio yn y ganollan hamdden werth miliwn o bunnoedd!


Cyfrannwch

Madhu Kannan, Caerdydd
Mae'n braf i weld gwyneb cyfarwydd wrth i mi geisio dysgu Cymraeg! Gobeithio bod popeth yn iawn a ti'n mwynhau bywyd fel tad.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý