Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Gareth Bryer Pasport Gareth Bryer
Medi 2006
Dyma golofn misol ym mhapur bro Y Dinesydd sy'n holi Cymry Cymraeg sy wedi symud i'r brifddinas dros y blynyddoedd diwethaf.
Gogleddwr, Gareth Bryer, sy'n cael ei holi y mis yma...

O le wyt ti'n dod yn wreiddiol?
Tremeirchion yn Sir Ddinbych

Ym mha ran o Gaerdydd wyt ti'n byw?
Yn y Rhath

Ers faint wyt ti'n byw yng Nghaerdydd? Symudes i lawr yn mis Medi 2000.

Beth fuest ti'n ei wneud ar ôl symud yma?
Bues i'n byw gartref ar ôl bod yn teithio o gwmpas yr Unol Daleithiau. Penderfynais symud lawr i Gaerdydd i fod yn agosach at fy nghariad, Lowri. Yna dechreuais weithio i British Gas fel dadansoddwr tra roeddwn i'n sgwennu ac ymchwilio yr un pryd ar gyfer rhaglenni radio yn fy amser sbâr. Pryd symudais i lawr i ddechrau roeddwn i'n byw gyda fy nghefnder, Simon - oedd yn byw yn Nhreganna (yn hen fflat Gary Slaymaker fel mae'n digwydd!) cyn symud i mewn at Lowri ym Mhenylan. Bues i'n rhentu gan fwyaf yn ardal Treganna, ond yn ystod y ddwy flynedd diwethaf mae Lowri a fi wedi prynu tŷ^ gyda'n gilydd yn ardal y Rath, ac wedi priodi.

Lle wyt ti'n gweithio erbyn hyn?
Bues i ar brofiad gwaith gyda'r rhaglen Good Morning Wales ar Fedi 11, 2001. Arweiniodd hyn at fwy o brofiad gwaith gyda nhw, cyn i mi gael cytundeb byr dymor gyda'r Â鶹Éç. A dwi 'di hod yno ers hynny! Dwi 'di bod yn ymchwilydd ar Good Morning Wales, wedi cynhyrchu rhaglen ddogfen ar hanes y Cymry yn Lerpwl, a'r gyfres busnes Wales@work, ac wedi gweithio gyda Betsan Powys ar Panorama, yn trafod obesity a'r rôl sydd gyda busnesau bwyd mawr i'w wneud gyda phlant sy dros eu pwysau. Erbyn hyn dw i'n gweithio ar raglen ffonio-i-fewn Nicola Haywood Thomas ar Radio Wales, sy'n brysur iawn ac yn gam at newyddion byw dw i'n ei fwynhau. Er enghraifft, ein rhaglen ni oedd y gyntaf ar yr awyr ar ôl ymosodiadau y 7fed o orffennaf y llynedd. Hefyd, hi oedd y cyntaf i gael cyfweliad gyda Gareth Thomas ar ôl y newyddion fod Mike Ruddock am ymddiswyddo fel hyfforddwr sgwad Cymru.

Beth wyt ti'n hoffi ei wneud yn dy amser hamdden?
Dwi'n mwynhau bwyta a dwi wedi dysgu coginio, diolch i Jamie Oliver (roeddwn i'n waeth na Glyn Wise pan es i i'r coleg am y tro cyntaf!) Dwi'n hoff o ddarllen, yn arbennig awduron Americanaidd. Dau o fy hoff awduron yw David Mitchell ac yn arbennig Philip K. Dick.

Mae gen i ddiddordeb mawr yn Japan. Roedd mynd yno ar ein mis mel y llynedd yn un o brofiadau gorau fy mywyd (ar ôl y briodas ei hun, wrth gwrs). Dwi'n gwrando llawer ar gerddoriaeth, indie fel Yeah Yeah Yeahs, Zabrinski neu Four Tet, ac indie eraill fel y Killers neu'r Zutons, a soul, gospel a'r blues. Mi wna i wrando ar bob math o gerddoriaeth unwaith, i fod yn onest. Pan fydda i ar wyliau, byddaf yn mwynhau hip hop mewn ieithoedd tramor.

Dwi'n gefnogwr brwd o'r Scarlets ers o'n i'n blentyn ac, yn lwcus i mi, mae'r teulu¬yng-nghyfaith yn gefnogwyr selog hefyd. Mae hyn wedi helpu iddynt dderbyn 'gog' i'r teulu, ac wedi plesio fy nhad-yng¬nghyfraith!

Ar adegau eraill, dwi'n mwynhau chwaraeon, yn arbennig rhedeg. Dwi'n rhedeg rasus 10 milltir Caerdydd ac Abertawe ym mis Medi, a'r hanner marathon yng Nghaerdydd fis Hydref A dw i wrth fy modd hefyd gyda sboncen a beicio mynydd.

Be sy'n gwneud i ti chwerthin?
Pob dim i fod yn onest. Mae pawb yn gwaith yn nabod y sŵn pan dwi'n chwerthin (debyg i Bovcie o Only Fools and Horses, dwi'n meddwl). Dwi'n mwynhau gwylio pobl yn brifo'u hunain trwy redeg i mewn i bethau neu'n syrthio drosodd. Dwi hefyd yn mwynhau puns a practical jokes gwael ac Alan Partridge.

Lle ydi'r mannau gorau i fynd allan yng Nghaerdydd?
Dwi'n hoffi tafarndai fel y City Arms neu dafarndai o gwmpas Treganna neu'r Rhath ayb neu fars fel y Toucan.

Lle ti'n hoffi mynd am wyliau?
Japan! Wel, unrhyw le diddorol: ond dwi'n fwy o berson gwyliau gaeaf yn hytrach na gwyliau traeth. Es i i eirafyrddio am y tro cyntaf eleni, a hoffwn i wneud hyn eto.

Petaet yn cael miliwn o bunnoedd i'w wario ar Gaerdydd, beth fyddet ti'n ei wneud?
Ew, sortio Bws Caerdydd yn un peth! A stopio canol y dre rhag cael ei droi i le sy'n gorlifo efo siopau cadwyn. Buaswn i hefyd yn rhoi stop ar adeiladu'r fflatiau, tai a swyddfeydd newydd sy'n cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, a rhoi'r arian tuag at godi datblygiadau sy'n llawer iawn mwy diddorol a gwell (neu wella'r adeiladau hanesyddol oedd yna'n barod).

Lle ti'n gweld dy hun mewn deng mlynedd?
Dwn i'm. Yn y bryniau yn rhywle, gyda fflat bach yn Llanelli i wylio'r Scarlets yn chwarae? O, a thÅ· yn Japan hefyd!


Cyfrannwch

Junko Salmon, USA
Ble aethoch chi yn Japan? Dw i'n dod ohoni hi yn wreiddiol.


Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý