Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Aberystwyth

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Aberystwyth
Lowri a rhai o'r bechgyn Taith Romania
Yn mis Mehefin 2006 teithiodd myfyrwyr o Aberystwyth a thri o arweinwyr o'r Urdd i ardal dlawd Popesti yng ngogledd ddwyrain Romania.
  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith.

    Trefnwyd y daith ar y cyd rhwng y Romanian Foundation for Children, Urdd Gobaith Cymru a ni, criw o wyth o fyfyrwyr o Aberystwyth. Ar ôl misoedd o waith caled yn codi arian a pharatoi, roedden ni ar y ffordd yno dal heb syniad beth i ddisgwyl.

    Treuliom ein noson gyntaf yn nhref Oredea, er mwyn cyfarwyddo â'r wlad a chael cyfle i siopa am adnoddau i'r ganolfan lle byddem yn treulio y pump diwrnod nesaf. I fod yn onest, doedd dim syniad gyda ni o beth oedd anghenion y plant na pa fath o gyflwr fyddai ar y ganolfan. Ond roedd pethau mor rhad yno llwyddon ni i brynu llwyth o ddeunydd celf a chrefft, offer chwaraeon a llestri i'r ganolfan cyn i ni adael am Popesti.

    Cyrraedd Popesti
    Dim ond wrth gyrraedd Popesti wnaeth e'n taro ni o'r gwir sefyllfa a'r tlodi. Roedd y gwahaniaeth rhwng Popesti ac Oredea yn anferth. Ceffyl a chart oedd modd trafnidiaeth rhan fwyaf o drigolion yr ardal, a doedd dim dŵr twym na chawod lle oedden ni'n aros. Am bump diwrnod!

    Roedd nifer o blant yn chwarae tu allan i'r ganolfan wrth i ni ddod o'r bws a phawb yn troi i syllu arnom. Daeth nifer i siglo ein llaw neu rhoi cwtsh i ni a'r rhai mwyaf hyderus yn ein cyfarch yn Saesneg. Yna, roedd hi'n bryd i gwrdd â'r rhai oedd yn gweithio yn y ganolfan. Gwirfoddolwyr oeddent i gyd o'r pentref ac mae nhw'n gwneud gwaith gwirioneddol arbennig.

    Ni a'r plant Esboniodd pennaeth y ganolfan sefyllfa'r plant. Roedden ni'n mynd i dreulio'r wythnos yn gweithio mewn canolfan ar gyfer ieuenctid yr ardal oedd yn mynychu ysgol arbennig ar gyfer plant amddifad, neu oedd yn dioddef trais yn y cartref, wedi eu effeithio gan alcoholiaeth yn y cartref, neu yn cael problemau dysgu. Ond roedd y ganolfan hefyd ar agor i blant eraill yr ardal nad oedd yn mynd i'r ysgol arbennig.

    Roedd y plant yn medru mynychu'r ganolfan bob awr o'r dydd - o wyth y bore ac roeddent yn aros nes iddi dywyllu tua hanner awr wedi deg y nos. Er gwaethaf sefyllfa'r plant roeddent yn blant hapus, cyfeillgar, hwylus ac egnïol iawn! Roeddent o hyd yn chwarae tu fas ac yn rhedeg o gwmpas neu gicio pêl.

    Rhannu diwylliant
    Penderfynom y byddai'r diwrnod cyntaf yn ddiwrnod 'rhannu diwylliant'. Ar ôl chwarae gemau yn y bore, gan eu hannog nhw i ddysgu rhai i ni, treuliom y prynhawn yn gwneud celf a chrefft gyda'r plant tu allan. Roedden ni yn gwneud lluniau o bethau oedd yn berthnasol i Gymru a hwythau yn gwneud rhai o Romania. Er gwaethaf y broblem iethyddol, ar y cyfan doedd dim problem cyfathrebu. Byddem ni'n siarad Cymraeg gyda nhw a hwythau yn siarad yn ôl yn eu hiaith nhw, a doedd dim problem. Mae'r ffyrdd o gyfathrebu sy'n cael eu creu pan nad yw iaith yn ddewis yn ddiddorol!

    Gan eu bod mor hoff o chwaraeon, trefnwyd bore o fabolgampau. Roeddent yn gystadleuol iawn, ond yr athrawon oedd y gwaethaf! Cystalodd ryw bedwar tîm o tua naw yr un mewn pob math o gystadleuthau - rhai yn fwy gwirion nac eraill! Roedd y merched yn enwedig yn hoff o chwaraeon a bron pob un yn meddu ar sgiliau pêl-droed medrus iawn.

    Llwyddiant
    Roedd hi'n anodd iawn gadael y plant ar ôl wythnos fythgofiadwy, ac roedden ni wedi dod yn ffrindiau mawr gyda nhw. Bwriad y daith oedd i dreulio amser gyda'r plant yn rhoi profiadau gwerthfawr iddynt - ac fe allai eich sicrhau chi, mae pob plentyn yn Popesti nawr yn gwybod dawns jac-y-do! Dwi'n hyderus ein bod ni wedi llwyddo yn ein bwriad, yn enwedig wrth ddysgu gemau iddynt y gallan nhw gario ymlaen gyda nhw ar ôl i ni adael. Prynon ni barasiwt iddyn nhw chwarae ac roedden nhw wrth eu boddau - a paention ni hop-scotch ar yr iard iddyn nhw fedru ei ddefnyddio.

    Un bore, wrth i ni ddechrau'r diwrnod gyda dawns egnïol Llangranog yn y ganolfan, dyma un merch tua wyth oed a dau fachgen tua phedair oed yn edrych i mewn trwy'r drws yn betrus a swil. Gwrthodon nhw ddod i ymuno â ni, er i ni eu hannog nhw i wneud. Ar ôl sawl awr o drio eu cael nhw i ymuno ac i fwrw eu swildod, erbyn y prynhawn roedden nhw'n llawn egni a hwyl ac yn chwarae gyda'r plant eraill, wrth eu boddau. Os ydyn ni wedi llwyddo rhoi hyder i'r tri plentyn yma i gymdeithasu mwy ac i fedru mwynhau, yna dwi'n meddwl bod y daith wedi bod yn llwyddiant.

    Mae arian ar ôl gennym ni o'r daith felly rydyn ni'n cychwyn cronfa i geisio cael y plant yn ôl yma i Gymru. Mae'n bwysig ein bod ni'n cadw'r cysylltiad yn gryf, a dwi'n gobeithio'n fawr mai dyma ddechrau perthynas glos rhwng plant Cymru a Romania.

    Gan Lowri Johnston ar ran y criw

  • Cliciwch yma i weld lluniau o'r daith.


  • Cyfrannwch

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.



    Llyfrgell Genedlaethol Cymru
    Lluniau
    Trefi
    Digwyddiadau


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý