Ffrwyth dychymyg cerddor o Philadelphia, James Moyer, yw'r ŵyl, sydd wedi cydweithio'n agos ag ŵyr Arwel Hughes, Meuryn Hughes, i'w datblygu. Cynheuwyd diddordeb James Moyer yng ngherddoriaeth Arwel Hughes yn 1972, pan ganodd e un o weithiau'r Cymro dan faton y cyfansoddwr ei hun mewn gŵyl gerdd yn Scranton, Pennsylvania. Cysylltodd ef a Meuryn Hughes, sy'n cyhoeddi cerddoriaeth ei daid trwy ei gwmni yn Ne Cymru, Aureus Publishing, ac mae'r ŵyl yn ffrwyth eu llafur dros y ddwy flynedd diwethaf. Dros y pedwar diwrnod, cynhelir perfformiadau o weithiau mwyaf poblogaidd Arwel Hughes, gan gynnwys y gweithiau corawl 'Dewi Sant' a 'Gweddi' dan arweiniad James Moyer, ynghyd â'r darnau llai, 'Nefoedd' a 'Cân Ossian' . Er mai prif ganolbwynt yr ŵyl fydd cerddoriaeth Arwel Hughes, fe fydd perfformiad o waith comisiwn gan Meuryn Hughes ar brif noson yr ŵyl, y nos Sadwrn, 30 o Ebrill. Yn seiliedig ar adnodau'r Beibl, cyfansoddwyd 'Y Gwynfydau' ar gyfer côr cymysg ac organ. Fe fydd côr ieuenctid yn perfformio trefniant Meuryn Hughes o'r emyn poblogaidd 'Gwahoddiad' ynghyd â threfniant o'r ffefryn 'Ar Hyd Y Nos' ar gyfer côr cymysg, bariton ac organ. Elfen arall o'r ŵyl fydd cyfres o ddarlithoedd a gweithdai cyfansoddi. Fe fydd Meuryn Hughes yn rhoi darlith ar fywyd Arwel Hughes, gan ganolbwyntio ar y prif ddylanwadau ar ei gerddoriaeth. Mae'r ŵyl yn addo bod yn ddathliad cyfoethog o fywyd a cherddoriaeth Arwel Hughes, ac yn gyfle i glywed gweithiau nas perfformir yn aml. Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Aureus Publishing ar 01656 88 00 33 neu Ebostiwch info@aureus.co.uk
|