Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Castell Caerdydd UFO yng nghanol y ddinas
Gorffennaf 2006
Ar ôl misoedd o ddatblygu tu ôl i luniau a goleuadau a ffensys pren, datgelwyd y campwaith newydd o flaen castell Caerdydd.
Wrth gerdded dros bont Treganna, heibio i'r Stadiwm a gwesty'r Holiday Inn, daw'n amlwg bod rhywbeth wedi newid yn nhirlun y ddinas. Mae'r sgaffaldiau wedi'u tynnu i ddatgelu cloc tlws y castell unwaith yn rhagor, a rhywbeth digon tebyg i sgaffaldiau wedi ymddangos ar draws yr olygfa.

Mwya' sydyn, mae na rywbeth na ellir ond ei alw yn 'strwythur' yn rhwystro'r olygfa o'r hen waliau cerrig - yn stribedi modern o ddeunydd dienw coch, gwyn a du. Ac yn lle stribyn braf o borfa las i ymlacio ynddo rhyw amser cinio yn haul braf Mehefin - iawn, yn cuddio rhag y colomennod budur a'r gwylanod cecrus ac yn ceisio cyrraedd man uwchlaw bloeddio traffig canol y dre - bellach mae yna gyfleuster arloesol newydd ar hen slabyn mawr o goncrit llwyd lle gall ymwelwyr â'r ddinas hardd brynu tocynnau i'r castell a phob math o swfenîrs o Gymru.

Dychmygwch yr holl drugareddau Cymreig y gallwch eu canfod yno - o lyfr ryseitiau o Gymru, i gemwaith, i deganau meddal ar ffurf paen a phlu y peunod eu hunain, i grysau-t gyda chartŵn o ddraig goch ifanc ("Am I cute or am I cute'?"). Wel, does yna unman arall yn yr ardal yn gwerthu trysorau o'r fath, nac oes?

Barn un fenyw, yw hyn, wrth gwrs, ac mae'n rhaid bod y sawl a'i dyluniwyd ac a'i comisiynwyd yn gweld gwerth mawr yn y strwythur. Ond dal fy anadl ydw i - mae na luniau a ffensys pren yn dal heb eu tynnu ymhellach ar hyd y waliau cerrig. Tybed pa wledd weledol a/neu fasnachol sy'n ein disgwyl y tu ôl iddyn nhw...

  • Gwefan Caerdydd ar Lleol


  • Cyfrannwch
    Cyfrannwch i'r dudalen hon!

    Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
    Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

    Sylw:




    Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


    0
    C2 0
    Pobol y Cwm 0
    Learn Welsh 0
    Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


    About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
    Ìý