Fis Gorffennaf, rhoddwyd clod arbennig i'r brand yn seremoni gwobrau dylunio dwyieithog y Bwrdd a ddyluniwyd gan gwmni Citigate Lloyd Northover. Eu caffi yng nghanol dinas Caerdydd fu'n llwyddiannus yng nghystadleuaeth bwydlen ddwyieithog y mis y tro hwn. Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd y Bwrdd: "Rwy'n hynod falch i longyfarch Blas ar eu llwyddiant. Mae'r ffaith eu bod wedi ennill cystadleuaeth bwydlen ddwyieithog y mis mor agos at eu llwyddiant gyda'r gwobrau dylunio yn dangos eu hymrwymiad i hybu'r ddwy iaith yn eu gwaith o farchnata bwyd a chynnyrch Cymreig. Fel eu brand, mae'u bwydlen yn syml, yn ddeniadol ac effeithiol." Ychwanegodd Wynfford James o Gyfarwyddiaeth Fwyd Awdurdod Datblygu Cymru: "Rwy'n falch iawn ein bod yn cael cydnabyddiaeth am ein gwaith ar y cyd lle mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio, gyda Citigate ar y brand Gwir Flas, a chyda Cyngor Caerdydd yn Blas. Mae'r iaith Gymraeg yn rhan bwysig o naws lle ac o'r profiad cyflawn o fwyta yng Nghymru." Bwriad cystadleuaeth bwydlen ddwyieithog y mis yw gwobrwyo'r bwyty sydd â'r fwydlen ddwyieithog (Cymraeg a Saesneg) orau bob mis, ac mae'r bwyty llwyddiannus yn derbyn tystysgrif hardd wedi'i fframio, tra fod enwebydd y fwydlen lwyddiannus yn derbyn magnwm o siampén, drwy garedigrwydd cwmni gwerthwyr gwin Tanners. Enwebwyd bwydlen Bias gan Matthew Jones o Gaerdydd. Bydd enillydd bwydlen orau'r flwyddyn yn ennill chwaraewr DVD arbennig - gwobr gan gwmni Fayrefield Foods, gwneuthurwyr Caws Colliers, sy'n cael ei werthu mewn archfarchnadoedd dros Gymru a thu hwnt. Mae'r Llinell Gyswllt â'r Gymraeg yn cyfieithu bwydlenni yn rhad ac am ddim i unrhyw un sy'n dymuno cynnig gwasanaeth dwyieithog. Am fanylion, cysylltwch â'r Llinell ar 0845 607 6070. Mae cymryd rhan yn y cynllun yn hawdd - gallwch naill ai anfon enw a chyfeiriad y bwyty ar ebost at bwydlen@bwrdd-yr-iaith.org.uk neu gellir anfon y ffurflen enwebu ar gefn y daflen at Fwrdd yr Iaith Gymraeg, Rhadbost CF3248, Caerdydd CF1O 1GZ. Gellir ffonio Uned Farchnata'r Bwrdd ar 029 2087 8000 am ragor o fanylion. Gellir cael rhagor o fanylion am gynllun gwobrau dylunio dwyieithog y Bwrdd drwy anfon ebost at gwobrau@bwrdd-yr-iaith.gov.uk.
|