Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Veronica Paola Jones de Kiff a'r Cyngorydd Freda Salway Dinesydd newydd
Tachwedd 2004
Croeso cynnes iawn i Veronica Paola Jones de Kiff o Batagonia, sydd newydd dderbyn ei Dinasyddiaeth Prydeinig mewn seremoni yn y Maerdy.

Aeth ei theulu i'r wladfa ar ddiwedd y 19eg ganrif, a daeth Veronica i Gymru ym 1997 i ddysgu Cymraeg yng Ngholeg Harlech a Phrifysgol Caerdydd. Tra'n astudio'r iaith cyfarfu â'i gŵr Gareth Kiff, sydd yn diwtor iaith yng Nghanolfan Iaith y Brifysgol. Erbyn hyn mae Veronica a Gareth yn byw ym Mharc y Rhath ac mae hi'n gweithio i Gymdeithas Pêl Droed Cymru.

Croesawyd Veronica ar ran y ddinas gan y Cynghorydd Freda Salway mewn Seremoni Dinasyddiaeth ar ddechrau mis Hydref, ynghyd â naw dinesydd newydd arall o wahanol gefndiroedd. Cymerodd Veronica ei llw yn Gymraeg, y person cyntaf i wneud hynny yn y brifddinas ac yng Nghymru, o bosib.

Meddai Veronica ei bod hi'n falch o allu dathlu'r achlysur yn yr heniaith.

"Roeddwn yn gallu synhwyro fy nghyndeidiau ochr yn ochr â'm teulu newydd yn y seremoni, ac roeddwn yn hynod o falch o fod yn Archentwraig ac yn Gymraes."

Mae Caerdydd yn un o'r awdurdodau lleol cyntaf ym Mhrydain i gynnig seremonïau dinasyddiaeth ac mae Gwasanaeth Cofrestru'r ddinas yn derbyn dros 600 o geisiadau am ddinasyddiaeth bob blwyddyn.


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Gasnewydd):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý