Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Bae Caerdydd Cynnal gŵyl ger y lli
Medi 2008
Tanio'r dychymyg yw bwriad trefnwyr Gŵyl Llên y Lli ym Mae Caerdydd gyda phiano llawr ag Injan Odli.

Gŵyl lenyddol ddwyieithog a drefnir gan yr Academi ym Mae Caerdydd yw Llên y Lli. Bydd yn agor ar nos Fercher, 8 Hydref gyda noson o Sgriptiau Sydyn.

Daniel Glyn fydd yn cyflyno doniau rhai o awduron ifainc mwyaf cyffrous y ddinas sef Ceri Elen, Huw Foulkes, Lleucu Siôn, Elis Gomer a Gwilym Dwyfor.

Tro'r beirdd fydd hi yn Y Gig Cymysg, pan fydd Iwan Rhys, Lois Barrar a Rhys Iorwerth yn serennu mewn noson ddwyieithog, aml gelfyddydol ar y cyd â PoetryFilm. I gloi'r noson bydd Derwyddon Dr Gonzo yn chwarae set fyw.

A oes lle i lenyddiaeth fel arf gwleidyddol? Dyma un o'r cwestiynau fydd Betsan Powys yn ei holi mewn trafodaeth yn NhÅ· Hywel gyda Catrin Dafydd, Dyfrig Jones a Dewi Prysor.

Uchafbwynt yr ŵyl fydd dadorchuddio Yr Injan Odli, creadigaeth Cymdeithas y Rhyfeddod a gomisiynwyd gan yr Academi yn arbennig ar gyfer yr ŵyl. Sut mae esbonio'r Injan unigryw?

Bydd 24 o feirdd amlwg yn creu cwpled ar y thema 'Beth yw Dychymyg?' ac yn cael eu recordio yn adrodd y llinellau hyn. Yna, bydd pob cwpled yn caei ei danio gan gliced arbennig ar ffurf piano llawr, gyda'r gynulleidfa'n taro'r nodau.

Y bwriad yw y gall unrhyw gwpled wneud synnwyr drwy ddilyn cwpled arall, gyda'r beirdd yn ymateb i'w gilydd ar hap. Felly, bydd cerdd newydd yn cael ei chreu drwy ddefnyddio cyfuniadau damweiniol o'r cwpledi gan feirdd yn cynnwys Mererid Hopwood, Gwyn Thomas, Hywel Griffiths, Sian Northey a T James Jones.

Cynhelir digwyddiadau yn siop lyfrau Borders yng nghanol y ddinas yn ystod yr awr ginio - Tamaid o Lên gydag awduron fel Joanna Davies.

Gallwch hefyd edrych ymlaen at weithdy tecstlynion Eurig Salisbury, sesiwn blogio a gweithdy Mererid Hopwood ac Addysg y Cyfryngau Cymru gyda' r Sgwadiau Sgwennu.

Dim ond rhagflas yw hyn o'r arlwy i ddod. Mynnwch gopi o'r rhaglen lawn a rhagor o wybodaeth drwy gysylltu â'r Academi: 029 2047 2266 / post@academi.org


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý