Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

De Ddwyrain

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi a dinasoedd

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Dinesydd
Gareth Vaughan Jones yn Eisteddfod Wrecsam 1933 Datgelu dirgelwch y llun
Chwefror 2003
Mae'r Dinesydd yn datrys penbleth a fodolwyd am lun o Gareth Jones, newyddiadurwr o'r Barri a lofruddiwyd ym 1935.
Mae llawer o ddarllenwyr Y Dinesydd yn siwr o fod yn gyfarwydd â'r stori drist sut y llofruddiwyd y newyddiadurwr o'r Barri, Gareth Jones, yng Nghanolbarth Mongolia ar y 12fed o Awst 1935, diwmod cyn ei benblwydd yn 30 oed.

Yn 2001 cyhoeddodd ei nith, Dr Siriol Coley, gyfrol dan y teitl "A Manchukuo Incident", ffrwyth deng mlynedd o ymchwil. Ynddi mae nifer da o luniau o bob rhan o'r byd, ond mae un a dynwyd ar faes yr Eisteddfod gyda Gareth yng nghwmni dau fachgen ysgol. Nid oedd yn wybyddus i Siriol ym mha Eisteddfod y tynnwyd y llun na phwy oedd y ddau fachgen.

Gall Y Dinesydd ddatgelu y ffaith ddiddorol mai yn Eisteddfod Wrecsam 1933 y tynwyd y llun ac mai cyd-aelodau o Eglwys (MC) Penuel Y Barri oedd y ddau frawd, sef Eryl a Richard Hall Williams.

Fel Gareth, aethant i Brifysgol Aberystwyth. Cafodd Eryl Radd Anrhydedd Dosbarth Cyntaf yn y Gyfraith. Bu'n wrthwynebydd cydwybodol yn ystod y rhyfel gan weithio gyda'r Crynwyr (Friends Voluntary Relief Organisation) yn gofalu am blant a garcharwyd yn Belsen a threfnu gofal dros dro am y rhai digartref, Pwyliaid yn bennaf.

Bu'n darlithio yn y Gyfraith mewn sawl Prifysgol, yna'n Athro Troseddeg (Criminology) yn yr LSE, yn aelod o'r Parole Board ac ysgrifennodd sawl llyfr yn ei faes. Wedi graddio, aeth Richard yn weinyddwr mewn llywodraeth leol. Aeth i'r Swyddfa Gymreig yn 1967 a bu mewn sawl adran yno nes ei benodi yn bennaeth yr Adan Amaeth cyn ymddeol.

Bu'n Drysorydd Y Dinesydd am gyfnod. Llynedd, cyhoeddodd y gyfrol Hanes Salem Canton 1856-2000 ac mae wedi paratoi crynhoad Saesneg or hanes.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý