Os ydych yn teithio'r M4 i'r gorllewin fe welwch drwch ohonynt ar y banc yn ymyl y ffordd yn agos i Benybont. Maent yn amlwg yn hoffi eu lle yno ac wedi hadu ac ymledu. Mae'r friallen wedi bod o gwmpas ers canrifoedd ac yn cael ei chyfrif fel un o 'flodau syml pobol tlawd', chwedl Crwys. Roedd gan bob border bach dwy neu dair briallen ffel, a daffodil, bid siwr yn y ganrif ddiwethaf. Yr enw cywir amdani yw Primula vulgaris. Os nad oes rhai gennych yn yr ardd, peidiwch â'u codi o'r gwyllt, maent i'w cael yn ddigon parod o'r canolfannau garddio y dyddiau hyn. Fe welwch yno hefyd y mathau bob lliw o primula. Mae yna sawl gwahanol fath, ac maent i'w cael yn llythrennol ym mhob lliw dan haul. Y ddau mwyaf cyffredin yw'r amrywiadau ar P. vulgaris, sef rhai ag un blodyn i bob coesyn a'r rhai a elwir yn polyanthus, sydd â choes drwchus a nifer o flodau ar bob un. Yn bersonol, gwell gennyf weld y rhain mewn potiau wrth y drws nag yn y border gan fod y lliwiau'n gallu bod yn rhy llachar ac yn sioc i'r llygad ar ôl sobrwydd y gaeaf! Gellir cael briallu â blodau dwbl hefyd. Roedd y rhain yn boblogaidd iawn yn amser Shakespeare. Heddiw mae sawl math newydd ar gael sy'n ddel iawn, ond nid ydynt yn gallu hadu ac nid ydynt yn gwrthsefyll yr oerfel cystal.Mae'r briallu yn hoffi cysgod o haul cryf yr haf, felly tyfwch nhw o dan lwyni neu goed coll-ddail a fydd wrth ddeilio'n ddiweddarach yn rhoi cysgod iddynt. Bob tair neu bedair blynedd dylid eu rhannu. Yr amser gorau i wneud hyn yw ar ôl iddynt orffen blodeuo, tua mis Mehefin. Dyfriwch nhw'n dda cyn eu codi, eu rhannu a'ch dwylo ac ail-blannu'r rhaniadau tua 6 modfedd ar wahân, cyn eu dyfrio'n dda eto. Yna, gellwch sicrhau y bydd gennych friallu i'ch swyno am flynyddoedd i ddod. Gan Hwn a Hon
|