Gan mai dinas gymharol fechan yw Caerdydd, un o'r lleiaf erioed i wneud cais o'r fath, roedd y cais yn un uchelgeisiol iawn yn adlewyrchu dyhead y Cyngor i ddyrchafu Caerdydd i fod yn un o ddinasoedd cydnabyddedig Ewrop. Yn ôl y darlledwr adnabyddus a dirprwy gadeirydd yr ymgyrch, Vincent Kane, doedd cynnig Caerdydd ddim 'yn ymwneud â lle rydym ar hyn o bryd a beth rydym yn ei wneud nawr, ond yn ymwneud a lle rydym am fod.' Hyn, efallai, yn y bôn oedd un a ddifygion y cais. Cais wedi ei greu yn bennaf, ar addewidion oedd un Caerdydd. Beth oedd gennym i'w gynnig? Ar hyn o bryd does gennym ddim ty opera, nifer fechan o hen theatrau, dim canolfan sy'n olrhain hanes a thwf Caerdydd ac yn dilyn tranc y ganolfan gelf yn yr Ais, dim oriel gelf arwyddocaol. Canolfaen cais Caerdydd felly oedd ei statws fel prifddinas a pwysleisiwyd mai cais ar ran Cymru oedd hwn ac nid Caerdydd yn unig. Mabwysiadwyd y teitl 'Caerdydd Prifddinas Diwylliant Ewrop' i bwysleisio'r ffaith. Yn ôl cadeirydd yr ymgyrch, Arglwydd Faer y Ddinas, Russell Goodway 'Mae hwn yn gynnig sy'n adlewyrchu diwylliant cyfoethog ac amrywiol Cymru gyfan'. Roedd hyn yn sicrhau nid yn unig cefnogaeth mudiadau a sefydliadau cenedlaethol ond yn caniatau i atyniadau cenedlaethol fel stadiwm y mileniwm, yr Amgueddfa a'r Eisteddfod Genedlaethol gryfhau cais Caerdydd. Gellir ystyried yr or-ddibyniaeth hon ar statws Caerdydd fel prifddinas fel gwendid arall yn hytrach na chryfder. Mae yna aniddigrwydd cyffredinol ynglyn a llwyddiant Caerdydd i ddenu projectau mawr, costus ar draul ardaloedd eraill. Dyma enghraifft arall a drigolion Cymru gyfan yn mynd yn ddwfn i'w pocedi unwaith eto i ariannu menter oedd i'w chanoli yng Nghaerdydd. Pwy oedd yn debygol o elwa? Mae'n naturiol i drigolion y brifddinas deimlo'n siomedig na lwyddodd y cais ond a oedd yna gefnogaeth gwirioneddol y tu allan i ffiniau'r gaer? Cawn weld a fydd y cyhoeddusrwydd anferth a gafodd Caerdydd yn gymorth i ardaloedd eraill o Gymru yn y blynyddoedd i ddod, neu a welwn ardaloedd fel Y Rhyl, Y Bala, Llandudno a hyd yn oed Caergybi yn elwa mwy a lwyddiant Lerpwl?
|