Â鶹Éç

Explore the Â鶹Éç
Mae’r dudalen yma wedi cael ei harchifo ac nid yw’n cael ei diweddaru bellach. Mwy am dudalennau sydd wedi eu harchifo.

LLUN
17eg Tachwedd 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Papurau Bro

Â鶹Éç Homepage
Â鶹Éç Cymru
Â鶹Éç Lleol

CymruGoOrGoDdCanolDeOrDeDd
»

Canolbarth

Newyddion Lleol

Chwaraeon

Y Tywydd

Teithio

Bywyd Bro

Digwyddiadau

Papurau Bro

Trefi

Oriel yr Enwogion

Hanes

Lluniau

³Ò·É±ð²µ²¹³¾±ð°ùâ³Ü

Eich Llais

Â鶹Éç Vocab
OFF / I FFWRDD
» Turn ON
Troi YMLAEN
» What is VOCAB? Beth yw GEIRFA?
Ìý

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

Ìý
Y Ddolen
Erwyd Howells, Capel Madog; Huw Owen, Tregaorn; a Huw Jones, Blaencwm Bywyd ar y Mynydd
Tachwedd 2005
Tri o ddynion y mynydde yn siarad ar y testun 'Bywyd ar y Mynydd' i Gymdeithas Hanes Amaethyddiaeth Ceredigion.

Hyfryd oedd gweld Neuadd yr Eglwys Llanddeiniol yn llawn Nos Fercher 26ain Hydref 2005 i groesawu tri o ddynion y mynydde i siarad ar y testun 'Bywyd ar y Mynydd'.

Huw Jones Blaencaron a Huw Owen Tregaron oedd y prif siaradwyr efo Erwyd Howells Capel Madog yn Gadeirydd, ac i roddi arweiniad i'r drafodaeth.

I ddechrau cawsom hanes eu magwraeth. Un yn Dolgoch Cwm Tywi a'r llall yn Nhynddol ger Llynnoedd Teifi, Ffair Rhos. Melys oedd eu hatgofion am y cartref, yr aelwyd, a gwres dyddiol yr hen dân mawn, sydd erbyn heddiw wedi hen ddiffodd.

Cyfnod yr ysgol a 'r dyhead i adael er mwyn dilyn y grefft o fugeila. Pryd hynny'r ci a'r ceffyl oedd y prif adnoddau i gynnal bugail ar ei daith. Yn y pum degau nid oedd sôn am y cwad Japaneaidd efo'i olwynion 4X4 diflino. Pryd hynny gallech brynu ci defaid am ddeg swllt (50c) a chael chwe cheiniog (3p) o lwc. Rhaid oedd cael cŵn defaid da gan fod y mynyddoedd yn agored a heb ffiniau. Yn bennaf rhaid oedd cadw ci cwrsio cryf, er mwyn danfon y defaid yn ôl i'r mynydd neu i'w cynefin.

Erbyn heddiw mae'r ci cwrsio a'r llwdwn mynydd bron â mynd allan o ffasiwn. Roedd mynydd heb ffiniau yn creu llawer o waith a phroblemau cymdogion i fugail, ac yn peri llawer o anghydfod a chweryla rhwng cymdogion a ffrindiau.

Amryw yn y gynulleidfa yn cofio storom eira 194 7, ac yn bennaf y colledion enbyd. Y mwyafrif o ffermydd wedi methu a magu mwy na deg oen, rhai llefydd cyn iseled â thri. Pwy all fesur gwerth cynefin ar ôl blwyddyn heb gyfle i ddewis ŵyn magu?

Llu o atgofion am ddyddiau nodi a thorri clustiau, diwrnod lladd mochyn neu ambell i lo ifanc gogyfer y cneifio. Cofio diwrnod golchi defaid, rhai yn gorfod cerdded gryn bellter i gael golchfa dda, hynny yn digwydd rhyw wythnos i ddeg diwrnod cyn cneifio.

Ar ôl golchi'r defaid byddai'r ffermwr yn derbyn gwell pris am ei wlân, ond rhaid cofio fod y gwlân yn pwyso llai ar ôl ei olchi.

I'r rhai sydd yn gyfarwydd â bywyd y mynydd, diwrnod cneifio, yn sicr, oedd prif ddigwyddiad y flwyddyn ar bob fferm. Cymaint â dau gant yn ymwneud â chneifio yn Nantstalwen. Llai o lawer ar ffermydd bach. Cerdded neu farchogaeth oedd hanes pawb. Nid oedd cyfleusterau eraill i bobol y mynydd.

Ambell i gneifiwr ifanc ystwyth yn medru cneifio gymaint â chant mewn diwrnod. Llawer yn y gynulleidfa yn cofio cymeriad fel Carnera. Cawr o ddyn yn teithio o le i le. Ei waith bob amser oedd dal y defaid. Pawb yn cydnabod ei gryfder ac yn ei barchu am hynny, eraill yn tueddu i'w ofni.

Erbyn tua I957 roedd dyddiau cneifio efo gwelle yn prysur ddarfod. Dyma'r adeg pan ddaeth y peiriant cneifio teithiol i gefn gwlad Ceredigion. Ar y cychwyn nid oedd yr hen fugeiliaid yn hapus. Popeth yn symud yn rhy gyflym. Y peiriant yn cadw sŵn o fore hyd y nos. Y ddawn o gymdeithasu a thynnu coes yn dod i ben, a'r gwelle miniog yn colli ei flaenoriaeth. Daeth oes y lectric a'r peiriannau i reoli'r sgubor, tan gynnwys cefn gwlad a'u phobol.

Pennod bwysig yn hanes cymdeithas y mynydd wedi dod i ben, am byth!

I ddiweddu bu'r tri siaradwr yn cydnabod gwaith diflino'r gwragedd a'u gallu cynhenid i baratoi bwyd i niferoedd. Y cig, y gacen a'r bwdin bryd hynny yn eael eu coginio yn y ffwrn wal. Cyfran o'r cig yn dod efo'r trên o Aberystwyth ac yna o Stesion Strata neu Tregaron i'r ffermydd mynyddig.

Cledwyn Fychan fu'n gyfrifol am dalu diolch i'r tri siaradwr. Fel arfer, mawr yw ein diolch i'r gwragedd medrus am baratoi'r te a'r ymborth sydd mor flasus bob amser.

Yn ein cyfarfod nesaf, nos Fercher 30ain o Dachwedd 2005, bydd Megan J Evans (Blackwell gynt) Penparcau, yn siarad ar y testun 'O Fro i Fro' yn Neuadd yr Eglwys, Llanddeiniol. Y cyfarfod i ddechrau yn brydlon am 8.00 o'r gloch.

Croeso cynnes!

Erthygl gan Edgar Morgan


Cyfrannwch
Cyfrannwch i'r dudalen hon!

Ychwanegwch eich sylwadau i'r dudalen fan hyn:
Enw a lleoliad (e.e. Angharad Jones o Lanymddyfri):

Sylw:




Mae'r Â鶹Éç yn cadw'r hawl i ddewis a golygu sylwadau. Darllenwch sut i wneud y siwr caiff eich sylwadau eu cyhoeddi. I anfon cyfraniad mwy, cysylltwch â ni.


0
C2 0
Pobol y Cwm 0
Learn Welsh 0
Â鶹Éç - Cymru - Bywyd - Pobl - A-B


About the Â鶹Éç | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy
Ìý